Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sbwriela

​Gall sbwriel gynnwys yr holl fathau o eitemau megis pecynnau losin, pecynnau bwyd brys a hefyd stympiau blwch llwch a gwm cnoi.

Rhowch gwybod am sbwriela


Cofiwch fod symiau bach o sbwriel yn cael eu casglu ar ein rowndiau glanhau rheolaidd. Rhowch wybod i ni am unrhyw swm mawr o sbwriel sydd wedi cronni y tu allan i eiddo neu ar y stryd. 


​​
Llwytho...

Dirwyon Sbwriela




 

Os bydd swyddog gorfodi gwastraff yn eich gweld yn sbwriela byddwch yn derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £150. Byddwch hefyd yn derbyn HCB os gwelwch chi’n sbwriela o gerbyd. 


Os ydych chi wedi cael Hysbysiad Cosb Benodedig gallwch dalu â cherdyn credyd neu ddebyd yn ddiogel ar-lein.  Cyn i chi ddechrau bydd angen i sicrhau fod rhif eich Hysbysiad Cosb Benodedig wrth law gennych.​



talu ar-lein


Mae gennych 14 diwrnod i dalu hysbysiad cosb benodedig. Os na fyddwch yn talu, gallem ni gymryd camau cyfreithiol pellach trwy’r Llys Ynadon. 

 

Ni allwch herio Hysbysiad Cosb Benodedig gyda’r Cyngor. Os teimlwch na ddylech chi fod wedi derbyn yr hysbysiad, cewch gyfle i anghytuno trwy’r Llys Ynadon. ​ 

​​ ​​​​​
​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd