Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Graffiti

​​​​​​​​​​Mae graffiti'n anghyfreithlon ac yn difetha'r amgylchedd lleol. Cewch eich erlyn o dan Ddeddf Droseddol 1971 os cewch eich dal. 

Ein cyfrifoldebau 

Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb i gael gwared ar graffiti oddi ar:

  • Adeiladau cyhoeddus
  • Henebion 
  • Celfi stryd (meinciau ac ati)​

Dydyn ni ddim yn gyfrifol am​

  • Blychau ffôn
  • Llochesau bysus 
  • Blychau trydan
  • Hysbysfyrddau​
 

Cyfrifoldeb y cwmni a'u gosododd yno yw'r rhain. Bydd angen i chi gysylltu â'r cwmni priodol:​



Nid ein cyfrifoldeb ni yw adeiladau preifat. Fodd bynnag, gyda chaniatâd y tirfeddiannwr, rydym weithiau'n helpu i gael gwared ar graffiti oddi ar adeiladau preifat.

Ein hymateb i adroddiadau am graffiti

Ein nod yw:

  • Cael gwared ar graffiti nad yw'n dramgwyddus o fewn 10 diwrnod gwaith.
  • Cael gwared ar graffiti hiliol neu dramgwyddus o fewn 24 awr waeth beth yw’r sefyllfa o ran perchnogaeth tir.​


​Os tybiwch eich bod wedi gweld graffiti y gellid ei alw’n drosedd casineb gallwch ddweud wrthym amdano ar-lein. Canfod mwy am adrodd ar droseddau casineb​.​



Rhowch wybod am graffiti​​ ​


Llenwch y ffurflen a rhowch gymaint o wybodaeth â phosib am leoliad y graffiti.​  Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ni ddod o hyd iddo.  Gall y wybodaeth gynnwys:

  • Enw'r ffordd 
  • Tirnodau
  • Cyfeirnod ar bostyn lamp 
  • Enw neu rif yr adeilad​
​​


 
Llwytho...



© 2022 Cyngor Caerdydd