Mae ein strategaeth ailgylchu ar gyfer y 3 blynedd nesaf yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda thrigolion a busnesau ar draws y ddinas i reoli gwastraff Caerdydd.
Mae angen i bob un ohonom wneud newidiadau i gyrraedd y targed ailgylchu o 70% sy’n rhaid i ni ei gyrraedd fel dinas erbyn 2025.
Newidiadau i gasgliadau ymyl y ffordd
Y prif newidiadau i aelwydydd yw:
- Casgliad ailgylchu wedi ei ddidoli: bydd ailgylchu yn cael ei ddidoli i 3 chynhwysydd.
- Bydd mwy o eitemau'n cael eu casglu o ymyl y ffordd, gan gynnwys eitemau trydanol bach, Pecynnau Tetra a phodiau coffi.
Rydym yn adolygu casgliadau gwastraff cyffredinol Caerdydd i ystyried gwahanol feintiau bin, amlder y casglu, a'u haddasrwydd. Byddwn ni hefyd yn treialu ffyrdd o wella casgliadau ailgylchu mewn blociau fflatiau a HMOs (Tai Amlfeddiannaeth).
Newidiadau ychwanegol
Mae newidiadau eraill yn cynnwys:
- casgliadau ailgylchu ar wahân ar gyfer yr holl fusnesau sy’n derbyn gwasanaeth masnach Cyngor Caerdydd,
- annog gwaith atgyweirio, ailddefnyddio a lleihau gwastraff ledled y ddinas drwy gynyddu gweithio mewn partneriaeth,
- dod â chyfleusterau ailgylchu i'r cymunedau lleol,
- cynnig mwy o addysg ar ailgylchu o ddrws i ddrws mewn ardaloedd perfformiad ailgylchu gwael,
- glanhau’r stryd ar yr un diwrnod a gorfodaeth lymach ar ôl casgliadau.
Rheswm dros y newidiadau
- Mae 24 miliwn o fagiau gwyrdd untro yn cael eu defnyddio bob blwyddyn ar gost o bron i £1miliwn. Mae angen i ni symud at gynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio.
- Mae 30% o'r eitemau mewn bagiau ailgylchu gwyrdd yn mynd i'r gwaith Troi Gwastraff yn Ynni gan eu bod yn y bag anghywir. Mae angen i ni wella safon ein hailgylchu.
- Gallai bron i 50% o wastraff biniau du gael ei ailgylchu.
- Rhaid i ni gyrraedd y targed ailgylchu o 70% erbyn 2025 ac amcanion Caerdydd Un Blaned Caerdydd.
- I wella glendid y strydoedd ledled Caerdydd.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd yn cymryd peth amser i ni gyflwyno'r newidiadau hyn. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth cyn cyflwyno'r newidiadau.
Cael gwybodaeth am wasanaethau ailgylchu yng Nghaerdydd.
Ymateb y cyhoedd i'n hymgynghoriad ar y strategaeth wastraff
Cynhaliwyd ymgynghoriad 6 wythnos gennym yn ystod Gwanwyn 2022. Ymatebodd 3,305 o bobl. Dyma uchafbwyntiau'r canlyniadau:
- Roedd 85% yn cytuno bod angen i Gaerdydd wella ansawdd y deunyddiau sy’n cael eu casglu
- Roedd 48.8% yn cytuno gyda gwahanu ailgylchu i dri chynhwysydd.
- Gofynnodd 32% am opsiynau gwahanol i ardaloedd gwahanol o'r ddinas
- Gofynnodd 19.2% i ystyried casgliad ymyl y ffordd llawn.
- Mae 76.9% o drigolion yn defnyddio canolfan ailgylchu a 91% yn dweud bod y lwfans o 28 ymweliad y flwyddyn yn ddigonol.
- Gofynodd 57.3% am fwy o ganolfannau ailgylchu yng Nghaerdydd, a (51.7%) am fwy o gyfleoedd i allu rhoi eitemau i’w hailddefnyddio.
- Mae 88.8% â diddordeb mewn casgliad ail-ddefnyddio ar gyfer eitemau cartref mawr.
- 83.9% yn cytuno y dylai'r Cyngor fod yn lleihau ei effaith plastigau untro, drwy symud i gynwysyddion ailgylchu amldro.
- Hoffai 72.1% weld mwy o barthau ail-lenwi ledled Caerdydd.
- Mae 85% yn cytuno bod y cyngor yn symud i gerbydau trydan.
- Mae 35.1% yn teimlo bod y cyngor yn hysbysu trigolion ynghylch sut a beth i'w ailgylchu.
Roedd y rhai ymatebodd yn awgrymu bod angen i ni:
- wella’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol eraill,
- dosbarthu mwy o daflenni / llythyrau i aelwydydd,
- gweithio gyda phlant, gan gynnwys ysgolion a chlybiau ieuenctid, a
- gweithio gyda chymunedau a gwirfoddolwyr i helpu i rannu negeseuon.
Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Lawrlwythwch Strategaeth Ailgylchu Caerdydd (875MB PDF)External link opens in a new window