Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwybodaeth am gasgliadau a fethwyd

​​​Mae’n rhaid adrodd am gasgliadau a fethwyd o fewn 48 awr i’ch casgliad.

Nid ydym yn casglu ailgylchu a gwastraff ar Ddydd Sadwrn, Dydd Sul neu Ddydd Llun.

Cewch weld eich dyddiadau casglu yma.   Rhowch eich bagiau neu'ch biniau allan erbyn 6am ar y diwrnod casglu ond dim cynharach na 4.30pm y diwrnod cynt.

Darllenwch ein gwybodaeth am gasgliadau ailgylchu a gwastraff​ er mwyn cael gwybod sut i gyflwyno eich gwastraff yn gywir.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn adrodd am gasgliadau a fethwyd​

Gallwch adrodd am gasgliad a fethwyd ar-lein.


Bydd eich statws casgliad yn dangos a yw eich biniau a’ch bagiau wedi’u casglu, ar fin cael eu casglu neu heb eu casglu. Os bydd eitem wedi’i marcio fel ‘Casglwyd’ gallwch adrodd amdano fel un sydd wedi’i methu. Ni allwch adrodd am eitem sydd i gael ei chasglu neu eitem a farciwyd fel heb ei chasglu. 

Bydd unrhyw eitem a farciwyd fel heb ei chasglu yn dangos y rheswm pam na chafodd ei chasglu a chyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf. 

Adrodd


Pan fyddwch yn adrodd ar gasgliad a fethwyd byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau. Byddwn yn ymchwilio i’ch casgliad a fethwyd ac yn rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf.

Pan fyddwch yn anfon adroddiad am gasgliad a fethwyd atom, byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi:

  • ein bod wedi dychwelyd i gasglu eich ailgylchu a’ch gwastraff, neu 
  • bydd angen i chi roi eich gwastraff neu ailgylchu yn ôl allan ar gyfer eich casgliad nesaf.


Os byddwn yn mynd yn ôl i gasglu casgliad a fethwyd, ein nod yw gwneud hyn o fewn 48 awr o dderbyn eich adroddiad. Os na allwn ei wneud o fewn 48 awr byddwn yn aildrefnu eich casgliad.

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddychwelyd eich ailgylchu a’ch gwastraff i’ch eiddo a’i roi yn ôl allan ar eich diwrnod casglu nesaf.
  
Os byddwn yn cadarnhau na fyddwn yn mynd yn ôl i nôl eich casgliad a gollwyd, mae’n bosibl eich bod wedi:

  • rhoi eitemau anghywir yn eich bagiau neu eich biniau
  • cyflwyno eich ailgylchu a’ch gwastraff yn anghywir, er enghraifft os gwnaethoch chi ei roi allan yn rhy hwyr i’w gasglu
  • neu nad oedd eich bin allan pan geision ni ei ail-gasglu

Hefyd mae’n bosibl y bydd achlysuron pan na allwn ddychwelyd i gasglu eich ailgylchu a’ch gwastraff, oherwydd nad yw staff neu gerbydau ar gael.​

Rhesymau pam na fyddwch o bosibl yn gallu adrodd am gasgliad a fethwyd​

​​

Os na chafodd eich ailgylchu neu’ch gwastraff ei gyflwyno mewn pryd i’w gasglu, ni fyddwch yn gallu adrodd am gasgliad a fethwyd Ewch ag ef yn ôl i’ch eiddo a’i gyflwyno ar eich diwrnod casglu nesaf.

Gallwch wirio dyddiadau eich casgliadau ar-lein.  Rhowch eich bagiau neu'ch biniau allan erbyn 6am ar y diwrnod casglu ond dim cynharach na 4.30pm y diwrnod cynt.
Os oedd eitemau wedi’u cynnwys yn eich bagiau neu eich biniau na ddylent fod wedi bod yno ni fyddwch yn gallu adrodd am gasgliad a fethwyd. Bydd angen i chi dynnu’r eitemau anghywir cyn rhoi eich ailgylchu a’ch gwastraff allan ar gyfer eich casgliad nesaf.

Darllenwch ein gwybodaeth am gasgliadau ailgylchu a gwastraff​ er mwyn cael gwybod sut i gyflwyno eich gwastraff yn gywir.  Mae’n bosibl y byddwch yn derbyn sticer pinc ar eich bagiau neu eich bin os ydych chi wedi rhoi eitemau anghywir i mewn.

Gallwch chwilio am eitemau yn ein A-Y ailgylchu i weld sut y gallant gael eu hailgylchu neu eu gwaredu’n ddiogel.
Os na chafodd eich ailgylchu neu eich gwastraff ei gyflwyno’n gywir, er enghraifft os oedd y bagiau wedi’u rhwygo neu heb eu clymu, neu os na fyddai caead eich bin yn cau ni fyddwch yn gallu adrodd am gasgliad a fethwyd. Ewch ag ef yn ôl i’ch eiddo a’i gyflwyno’n gywir ar eich diwrnod casglu nesaf.

Darllenwch ein gwybodaeth am gasgliadau ailgylchu a gwastraff er mwyn cael gwybod sut i gyflwyno eich gwastraff yn gywir.
Ni fyddwch yn gallu adrodd am gasgliad a fethwyd os oedd eich bin yn rhy llawn i ni ei wagio. Mae’n rhaid i gaeadau biniau fod ynghau er mwyn eu casglu. Ni fyddwn yn casglu gwastraff ychwanegol, o gwmpas neu ar ben biniau.

Tynnwch unrhyw eitemau ychwanegol oddi yno cyn ei roi allan ar gyfer eich casgliad nesaf.

Os na allwn gael mynediad at fagiau a biniau y tu allan i’ch eiddo oherwydd bod mynedfa dan glo neu gôd anghywir i’r storfa finiau ni fyddwch yn gallu adrodd am gasgliad a fethwyd.

Os nad oeddem yn gallu cael mynediad at eich stryd oherwydd tywydd gwael, gwaith ar y ffordd neu gerbydau wedi’u parcio, ein nod yw dychwelyd i’w casglu yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw os yn bosibl. Mae’n bosibl y bydd angen aildrefnu eich casgliad.
Os yw eich bin wedi’i ddifrodi ac na allwn ei wagio ni fyddwch yn gallu adrodd am gasgliad a fethwyd.

Os byddwn yn sylwi bod eich bin wedi’i ddifrodi oherwydd traul, byddwn yn trefnu iddo gael ei drwsio. Byddwn yn ceisio rhoi eich bin yn ôl cyn pen 15 diwrnod gwaith. Gallwch ddefnyddio bagiau i roi eich gwastraff allan ynddynt nes i chi gael bin newydd.

Os yw eich bin wedi’i ddifrodi’n fwriadol ac ni ellir ei drwsio bydd angen i chi dalu am ​fin newydd​.
Os ydym yn ymwybodol o darfiadau ledled y ddinas i gasgliadau ailgylchu a gwastraff ein nod fydd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar-lein. Ni fydd angen i chi adrodd am gasgliad a fethwyd.

Os na allwn wneud casgliadau mae’n bosibl y byddwn yn dweud wrthych am roi eich biniau allan ar ddiwrnod arall.
Os ydych chi wedi rhoi biniau allan nad ydynt yn cyfateb i gyfeiriad eich eiddo neu nad ydynt wedi’u dyrannu i’ch eiddo, ni fyddwch yn gallu adrodd am gasgliad a fethwyd. ​​



© 2022 Cyngor Caerdydd