Rydym ni’n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i drin amrywiaeth o blâu mewn adeiladau domestig a masnachol.
Gall plâu gludo heintiau, achosi niwed i adeiladau ac ni fyddant yn diflannu os na chânt eu trin, ond yn hytrach byddant yn gwaethygu.
Mae gan bob un o’n technegwyr gymwysterau cydnabyddedig a phrofiad sylweddol o Reoli Plâu.
Mae gennym nifer o gleientiaid domestig a masnachol.
Rydym hefyd yn gosod trapiau yn system garthffosiaeth Caerdydd ar ran Dŵr Cymru i reoli nifer y llygod.
Y plâu yr ydym ni’n eu trin
Rydym yn cynnig gwasanaeth i ddelio ag achosion o’r canlynol:
- Chwilod gwely
- Chwilod duon
- Chwain
- Llygod
- Llygod mawr
- Cacwn
Mae’r gwasanaethau hyn ar gael i breswylwyr a busnesau. Bydd y costau’n amrywio fesul achos. Rydym hefyd yn cynnig contractau blynyddol er mwyn eich amddiffyn rhag plâu ar hyd y flwyddyn.
Cymerwg olwg ar ein
ffioedd rheoli plâu diweddaraf
Cynnig cyngor yn unig
Gyda rhai achosion o blâu nid ydym yn cynnig triniaeth, ond yn hytrach yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar sut y gallwch ddelio â’r broblem eich hun.
- Adar (heblaw am amnewid wyau gwylanod ar safleoedd masnachol)
- Tyrchod daear
- Pryfed nad ydynt yn achosi problemau iechyd y cyhoedd
- Gwenyn
Rhoddwn gyngor am ddim.
Oriau Agor
Dydd Llun - Dydd Gwener - 8am - 3pm
Cysylltwch â ni am broblem gyda phlâu
Cysylltu â ni
Ffôn: 029 2087 2934 (Peiriant ateb y tu allan i oriau swyddfa) neu 029 2087 2935
Nodwch: Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael y tu allan i oriau swyddfa.
Gadewch neges ar y peiriant ateb a bydd swyddog yn cysylltu â chi ar y diwrnod gwaith nesaf.
Fel arall, bydd rhaid i chi gysylltu â chwmni rheoli plâu arall.