Rydym ni’n delio â chwynion am y niwsans sŵn canlynol:
Rhoi gwybod am broblem sŵn
Cyn rhoi gwybod i ni am broblem sŵn, dylech geisio delio â’r broblem eich hun yn bersonol yn y lle cyntaf.
Os nad ydych yn gallu datrys y mater gyda’r person sy’n gyfrifol am y sŵn, gallwch gwyno am broblem sŵn i ni.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Pan fydd eich cwyn yn dod i law byddwn yn ymweld â’r person sy’n gyfrifol i roi gwybod iddynt fod cwyn wedi’i gwneud yn eu herbyn.
Byddwn yn esbonio sut caiff y gyfraith ei defnyddio i fynd i’r afael â’r math o sŵn a achosir ganddynt. Bydd rhaid iddynt fynd i’r afael â’r broblem neu wynebu camau cyfreithiol yn eu herbyn.
Os na fydd y sefyllfa’n gwella bydd rhaid i chi roi gwybod i ni, fel y gallwn gynnal ymchwiliadau pellach. Efallai y bydd rhaid i ni ddod i mewn i’ch cartref i gasglu tystiolaeth am y sŵn neu efallai bydd rhaid i chi ein ffonio pan fydd y sŵn yn digwydd.
Os yw’r sŵn yn digwydd nawr, ffoniwch: 029 2087 1650
Rheoli Sŵn Domestig - Canllaw Ar Gymryd Camau Cyfreithiol (PDF 159 KB)
Allan o oriau
Gellir cwyno am sŵn larymau ceir ac adeiladau yn uniongyrchol i 029 2087 1650
Insiwleiddio rhag sŵn
Weithiau gall sŵn fod yn broblem oherwydd nad yw’r system inswleiddio rhag sŵn yn effeithiol. Efallai y byddwch yn gallu clywed synau bob dydd o eiddo cyfagos, megis sŵn cerdded, fflysio toiledau, drysau’n agor neu fabanod yn crio. Nid yw’r rhain yn cael eu hystyried yn niwsans sŵn.
Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar inswleiddio rhag sŵn ar gael ar y wefan Building Research Establishments.
Lawrlwythwch eu taflen ar wella inswleiddio rhag sŵn mewn tai.
Dysgwch fwy am ddelio â niwsans sŵn ar wefan y llywodraeth ganolog.
Gwyno am broblem