Gallwch wneud cais am drwydded os ydych chi’n byw mewn Stryd Ysgol a bod eich cerbyd wedi’i gofrestru neu’b cael ei gadw yn eich cyfeiriad. Gyda'ch cais bydd angen i chi ddarparu:
-
Prawf o'ch preswyliad (megis bil y Dreth Gyngor neu fil trydan/dŵr/nwy sydd wedi'i ddyddio o fewn 3 mis i'ch cais), a;
- Copi o un o'r canlynol i brofi bod eich cerbyd yn cael ei gadw yn eich cyfeiriad:
-
Tystysgrif cofrestru cerbyd (Llyfr log V5C)
- Cytundeb Prydlesu, Cytundeb Cyllid neu Gytundeb Rhentu
- Tystysgrif a Pholisi Yswiriant (gan gynnwys Yswiriant Motability)
- Cerbydau Cwmni: mae'n rhaid i chi ddarparu llythyr pennawd cwmni o fewn 28 diwrnod i'ch cais i gadarnhau pob un o'r canlynol, eich bod chi'n gyflogai/cyfarwyddwr, rydych wedi'ch awdurdodi i yrru'r cerbyd, rydych yn cadw'r cerbyd dros nos yn eich cyfeiriad, rhif cofrestru eich cerbyd ac enw a swydd y person sy'n llofnodi'r llythyr.
Bydd y trwyddedau yn para hyd at flwyddyn neu nes y daw’ch preswyliaeth i ben; p’run bynnag sydd gyntaf.
Cofiwch nad trwyddedau parcio mo’r trwyddedau hyn, ac os ydych chi’n breswylydd bydd angen i chi wneud cais am drwydded parcio’n ar wahân os oes llefydd parcio â thrwydded ar eich stryd.
Gallwch wneud cais am hyd at ddwy drwydded Stryd Ysgol Bathodyn Glas blynyddol os ydych yn ddeiliad Bathodyn Glas ac os:
- Yn rhiant sydd â phlentyn sy’n mynychu ysgol ar y stryd ysgol
- Yn aelod o staff yn un o’n hysgolion treial
- Yn breswylwydd ar stryd ysgol
Bydd angen i chi uwchlwytho prawf cymhwyster.
Ni fydd yn rhaid i chi fod yn yrrwr neu'n berchennog y cerbyd gan fod trwyddedau Bathodyn Glas yn gymwys i unrhyw gerbyd. Fodd bynnag, dim ond pan fydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio er budd deiliad y Bathodyn Glas ar adeg mynd i’r Stryd Ysgol y bydd y drwydded yn gymwys.
Bydd y trwyddedau yn para hyd at flwyddyn neu nes y daw’ch bathodyn glas i ben; p’run bynnag sydd gyntaf.
Os ydych yn Ddeiliad Bathodyn Glas ac yn gofyn am fynediad dros dro i Stryd Ysgol (megis i ymweld â ffrind neu i rywun eich casglu ar gyfer apwyntiad meddyg) cewch wneud cais am drwydded dros dro.
Ni fydd yn rhaid i chi fod yn yrrwr neu'n berchennog ar y cerbyd gan fod trwyddedau Bathodyn Glas yn gymwys i unrhyw gerbyd. Ond dim ond pan fydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio er budd deiliad y Bathodyn Glas yn unig y bydd y drwydded yn gymwys.
Bydd y rhain yn para hyd at 3 diwrnod calendr.
Bydd angen eich cyfeirnod Bathodyn Glas a rhif cofrestru eich cerbyd arnoch.
Gwnewch gais am eithriad Bathodyn Glas dros droDolen yn agor mewn ffenestr newydd