Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rheoli eich trwydded parcio

​​Gallwch reoli eich trwyddedau parcio trwy system MiPermit neu drwy lawrlwytho'r app. 

Mewngofnodi i MiPermit


Pan fyddwch yn mewngofnodi i MiPermit, byddwch yn gweld y trwyddedau y mae angen eu hadnewyddu.

Os oes gan eich cyfrif gyfeiriad e-bost ynghlwm wrtho, byddwn hefyd yn anfon e-bost atgoffa ychydig wythnosau cyn i'r drwydded ddod i ben. 

I adnewyddu eich trwydded:

  • Mewngofnodwch i MiPermit
  • Cliciwch y botwm 'Adnewyddu' yn y ddewislen
  • Dewiswch y drwydded yr hoffech ei hadnewyddu
  • Cliciwch y botwm 'Adnewyddu Trwydded'







Bydd MiPermit yn llenwi'r dudalen prynu trwydded gyda'ch manylion. 

Byddwch yn gallu gwneud newidiadau i'r wybodaeth ar y dudalen hon os bydd angen. Rhowch fanylion eich cerdyn talu i gwblhau'r broses adnewyddu. 

Adnewyddu eich trwyddedau’n awtomatig


Os dewiswch yr opsiwn 'Adnewyddu Awtomatig' wrth wneud cais yna caiff eich trwydded ei hadnewyddu'n awtomatig gyda'r un manylion bob blwyddyn nes eich bod yn dewis dileu'r opsiwn hwn. 

Caiff y taliad ei gymryd 7 diwrnod cyn i'ch trwydded ddod i ben.  Os ydych am stopio'r adnewyddu awtomatig, gallwch newid eich manylion yn yr adran 'Rheoli Trwyddedau Digidol'. 

Er mwyn newid manylion eich cerbyd, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • Mewngofnodi i MiPermit 
  • Clicio ar ‘Prynu Trwyddedau ac Archebion Digidol’ 
  • Clicio ar 'Trwydded Newid Cerbyd', a 
  • Chwblhau’r cais. 







Bydd angen i chi roi:

  • Cadarnhad o rif eich trwydded bresennol,
  • Cadarnhad o rif cofrestru eich cerbyd blaenorol, a
  • Phrawf o’r ffaith bod y cerbyd wedi’i gysylltu â’r cyfeiriad
Ni allwch drosglwyddo trwyddedau rhwng eiddo. 

Os byddwch yn symud, canslwch eich trwydded bresennol.  

Gallwch ofyn am ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn sydd heb eu defnyddio ar eich trwydded gyda ffi weinyddol o £5 wedi’i thynnu. 

Rhaid i chi wneud cais am ad-daliad cyn canslo eich trwydded. 

I ganslo eich trwydded, cysylltwch â MiPermit a fydd yn dileu'r cyfrif yn eich cyfeiriad blaenorol. 

Yna byddwch yn gallu gwneud cais am gyfrif yn eich eiddo newydd.  

​Gellir defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi i ni mewn nifer o ffyrdd. 

Er enghraifft, gallai gael ei defnyddio i benderfynu a allwch gael trwydded, ac ar gyfer dadansoddi ystadegol. 

Gallai gael ei rhannu hefyd â Swyddfa Archwilio Cymru i ganfod ac atal twyll.    


© 2022 Cyngor Caerdydd