Mae trwyddedau parthau yn berthnasol i rai ardaloedd parcio i breswylwyr yng Nghaerdydd.
Mae gwahanol fathau o fannau parcio yn yr ardaloedd trwydded parcio parthau yng Nghaerdydd.
Mannau parcio i breswylwyr
Os ydych yn parcio mewn man parcio i breswylwyr rhwng 8am a 10pm, o ddydd Llun i ddydd Sul, mae angen trwydded parcio i breswylwyr arnoch.
Mannau parcio aros cyfyngedig
Gallwch barcio mewn man aros cyfyngedig am hyd at 2 awr rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Sul.
Gallwch barcio cyhyd ag y mynnwch os oes gennych drwydded parcio i breswylwyr.
Darllenwch yr arwyddion stryd i wybod pa drwydded sy'n gymwys a'r cyfyngiadau amser sydd ar waith
Mannau parcio talu ac aros
Gallwch barcio cyhyd ag y mynnwch yn y mannau parcio Talu ac aros.
Rheolir yr holl barcio rhwng 8am a 6pm.
Ni wneir unrhyw newidiadau i'r mannau anabl presennol fel rhan o'r broses hon
Parthau parcio
- Parth C1
- Parth C2
- Parth C3
- Parth C4
Gwneud cais am drwydded
Trwyddedau Glas
Os ydych yn byw mewn ardal parcio â thrwydded las, gallwch barcio ar unrhyw stryd yn ardal eich trwydded. Bydd hyn yn cael ei nodi ar y drwydded.
Darllenwch yr arwyddion wrth fynd i mewn i’r ardal barcio i wybod pa drwydded sydd ei hangen arnoch i barcio yno.
Ni allwch barcio ar unrhyw gyfyngiadau parcio eraill o fewn yr ardal parcio â thrwydded, megis ar linellau melyn dwbl.