Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Trwyddedau Gofalwyr

​​​​​​​​​Mae trwyddedau gofalwyr yn caniatáu i ofalwyr ddefnyddio ardaloedd parcio â thrwydded i breswylwyr ger cartref y person y maent yn gofalu amdano.
  

Mae trwyddedau gofalwyr am ddim.


Gallwch wneud cais am drwydded gofalwr am ddim os ydych yn:
 
  • ofalwr proffesiynol a gyflogir yn y sector gofal 
  • gofalwr heb fod yn broffesiynol sy'n derbyn Lwfans Gofalwr neu Gredyd Gofalwr
 
Y gofalwr sy'n gorfod gwneud cais am drwydded, nid y preswylydd.
  
Mae trwyddedau gofalwyr yn ddigidol ac wedi’u cysylltu â rhif cofrestru eich cerbyd felly nid oes angen i chi arddangos unrhyw beth.

Gwneud cais am Drwydded Gofalwr 


Bydd angen i chi gynnwys eich enw llawn, cyfeiriad a phrawf o: 

  • sut mae'r cerbyd wedi’i gysylltu â chi, er enghraifft V5C neu ddogfen yswiriant a’ch
  • cyflogaeth, os ydych yn ofalwr proffesiynol, neu
  • eich Lwfans Gofalwr neu Gredyd Gofalwr, os ydych yn ofalwr heb fod yn broffesiynol.


Gallwch hefyd lawrlwytho'r cais am Drwydded Gofalwr: 


Cwblhewch y ffurflen a’i hanfon i Trwyddedau@caerdydd.gov.uk Dolen yn agor mewn ffenestr newydd neu:

Gwasanaethau Parcio  
Blwch Post 47
Caerdydd
CF11 1QB


Os ydych yn ofalwr proffesiynol


Ar ôl i'ch cyfrif gael ei gymeradwyo, gallwch ddefnyddio'r ap MiPermit i gofrestru eich cerbyd yn y stryd lle mae angen i chi barcio.

Os na allwch ddod o hyd i le parcio y tu allan i'r cyfyngiadau, gallwch ddefnyddio'ch trwydded mewn unrhyw un o'r ardaloedd trwyddedau a nodwyd ar yr ap MiPermit.

Mae eich trwydded yn ddilys am hyd at 2 awr ar ôl yr amser cychwyn, a gallwch gael mwy nag 1 trwydded weithredol ar y tro.

Os ydych yn ofalwr heb fod yn broffesiynol


Gallwch ddefnyddio MiPermit er mwyn gwneud cais am drwydded ar gyfer y stryd lle byddwch yn darparu gofal. 

Mae eich trwydded yn ddilys am 24 awr.

Gallwch wneud cais am drwydded hyd at 14 diwrnod ymlaen llaw. 

Gallwn ofyn i chi am brawf o gyfeiriad y person yr ydych yn gofalu amdano ar unrhyw adeg. 


Cysylltu â ni


Ffoniwch y tîm MiPermit ar 0333 123 6006 i gael rhagor o wybodaeth neu help i wneud cais.
​​
© 2022 Cyngor Caerdydd