Mae gwaith modelu manwl ar ansawdd aer a thrafnidiaeth wedi cael ei gynnal ar draws y ddinas i ragweld lefelau
NO2 ac mae’r canlyniadau wedi nodi un stryd sy’n debygol o fynd y tu hwnt i derfynau cyfreithiol yr UE yn y dyfodol. Mae’r canlyniadau wedi dangos mai dim ond Stryd y Castell, sydd o flaen y Castell, ger Heol y Porth hyd at Heol y Dug, fydd yn debygol o fethu â chydymffurfio ar ôl 2021 pe na wnawn unrhyw beth i leihau llygredd traffig yno.
Er bod y data modelu, sy’n ofynnol dan Gyfarwyddeb yr UE, yn dangos mai dim ond Stryd y Castell fydd yn torri’r lefel ofynnol, mae gan y Cyngor nifer o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) hefyd ar draws y Ddinas lle mae’r lefelau llygredd yn parhau’n bryder.
Mae’r
Achos Busnes AmlinellolDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd diweddaraf wedi dod i gasgliad mai pecyn o fesurau di-dâl yw’r dewis gorau o gymharu ag Ardal Aer Glân sy’n codi taliadau.
Y prif reswm dros hyn yw bod y mesurau di-dâl yn cynnig manteision ansawdd aer ehangach ledled Caerdydd o’u cymharu’n uniongyrchol â chanlyniadau Ardaloedd Aer Glân sy’n codi tâl.
Mae canllawiau pellach gan y llywodraeth yn nodi’n glir y dylid ceisio bodloni terfynau llygredd heb godi tâl lle y bo’n bosibl.
Mae llygredd aer ar Stryd y Castell yn deillio o broblem ehangach sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r darn hwn o ffordd. Rhaid i ni wella allyriadau’r fflyd o gerbydau sy’n defnyddio’r rhwydwaith ffordd, lleihau nifer y ceir sy’n gyrru drwy ganol y ddinas, a chynyddu’r defnydd o ddulliau cynaliadwy o deithio megis beicio a cherdded.
Dyluniad cysyniadol yw’r mesurau arfaethedig hyn ar hyn o bryd a’r nod yw mynd i’r afael â’r broblem o lygredd aer yng nghanol y ddinas. Gwnaed cais amlinellol am gefnogaeth ariannol i Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynlluniau canlynol, a byddant yn cael eu mireinio yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chymeradwyaeth y cabinet wrth i ni ddatblygu’r achos busnes llawn:
- Gweithredu bysus trydanol i gymryd lle’r bysus hynaf a’r rhai sy’n achosi’r llygredd mwyaf – yn costio £1.8m
- Cyflwyno Cynllun Ôl-ffitio Bysus i weithredwyr bysus yng Nghaerdydd i uwchraddio bysus hŷn er mwyn iddynt fodloni safonau allyriadau injan Ewro VI – yn costio £1.4m
- Newidiadau mawr i Stryd y Castell a Heol y Porth a dolen canol y ddinas er mwyn caniatáu i drafnidiaeth gyhoeddus (bysus) symud yn well ac yn fwy effeithlon a gwella capasiti teithio llesol yng nghanol y ddinas - yn costio £18.9m
- Adolygu a gweithredu polisi tacsis diwygiedig i sicrhau bod pob cais am ‘drwydded cerbyd newydd’ neu ‘newid cerbyd ar drwydded bresennol’ yn cael ei gymeradwyo ar gyfer cerbydau sy’n bodloni’r safonau allyriadau Ewro 6 diweddaraf yn unig – yn costio £5.5m
- Gwelliannau i Deithio Llesol a rhagor o ardaloedd 20mya – yn costio £4.5m
Cymerwch olwg ar ragor o wybodaeth am y Project Aer Glân.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newyddCaiff Ardal Aer Glân â thâl ei diffinio fel ardal ddaearyddol lle codir tâl ar berchenogion sy’n gyrru ceir sy’n llygru drwy’r ardal.
Rhaid i’r Cyngor ddefnyddio Ardal Aer Glân â thâl fel meincnod ar gyfer yr achos busnes i asesu pa opsiwn – y cynllun codi tâl neu fesurau di-dâl – sy’n lleihau’r lefelau o lygredd hyd at y lefelau a ganiateir yn yr ‘amser byrraf posibl’.

Aseswyd dwy Ardal Aer Glân wahanol, gan ddefnyddio’r un ardal ddaearyddol.
Ardal Aer Glân 1 – Ceir preifat nad ydynt yn bodloni’r safonau allyriadau. Y gofyniad ar gyfer ceir petrol yw injan Ewro 4 o leiaf. Y gofyniad ar gyfer ceir disel yw injan Ewro. Y tâl a gynigiwyd oedd £10 y dydd.
Ardal Aer Glân 2 – Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) a Cherbydau Nwyddau Ysgafn (LGV) nad ydynt yn bodloni safonau allyriadau Ewro VI/6 ac Ewro VI/4. Y ffi a gynigiwyd oedd £50 ar gyfer cerbydau HGV a £10 ar gyfer cerbydau LGV.
Darllenwch wybodaeth am Ardaloedd Aer Glân â thâl a’r safonau allyriadau.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newyddMae bysus hŷn sy’n gweithredu ar danwydd disel yn cyfrannu’n sylweddol at lygredd aer yng nghanol y ddinas.
Mae’r mesurau arfaethedig yn cynnwys cynnig o £3.2m i gaffael bysus trydanol i gymryd lle’r bysus sy’n llygru fwyaf, yn ogystal â
chynllun ôl-ffitio i uwchraddio bysys eraill i injan Ewro VI. Mae injan Ewro VI yn lleihau Nitrogen Ocsid (NOx); Carbon Monocsid (CO); Hydrocarbonau (HC) a mater gronynnol (PM).
Mae’r rhan fwyaf o dacsis* Caerdydd yn gweithredu ar danwydd disel a nod y mesurau newydd arfaethedig yw lleihau’r allyriadau o’r cerbydau hyn.
Cynigir newid amodau trwyddedu ar gyfer pob cais am drwydded cerbyd newydd neu newid cerbyd ar drwydded bresennol.
Yn rhan o’r achos busnes, gofynnwyd am gyllid gan Lywodraeth Cymru am gynllun cymhellol i helpu’r fasnach tacsis i uwchraddio cerbydau. Nid yw’r cais wedi cael ei gymeradwyo hyd yn hyn a bydd unrhyw gynllun terfynol yn amodol ar ymgynghoriad pellach â’r fasnach.
Mae gan y polisi blaenorol feini prawf penodol ar gyfer cerbydau o wahanol gategorïau. Mae’r polisi newydd yn bwriadu symleiddio’r meini prawf, fel y dangosir isod.
*Mae’r term tacsi yn cynnwys y ddau fath o gerbyd a drwyddedir gennym yn y ddinas: Cerbydau Hacni, y gallwch eu fflagio yn y stryd, a cherbydau hurio preifat, y mae’n rhaid i chi eu harchebu ymlaen llaw.
Polisi trwyddedu tacsis presennol
Oed y cerbyd ar adeg y cais cyntaf | 25 mis | O dan 10 mlwydd oed | O dan 10 mlwydd oed |
Uchafswm oedran trwyddedadwy (oni bai bod y cerbyd yn cydymffurfio â pholisi amodau eithriadol) | 6 blynedd | 10 mlynedd | 10 mlynedd |
Oedran y bydd angen profi’r cerbyd bob blwyddyn / cyflwyno trwydded 12 mis | O dan 4 blwydd oed | O dan 4 blwydd oed
| O dan 10 mlwydd oed |
Oedran y bydd angen profi’r cerbyd bob 6 mis / cyflwyno trwydded 6 mis | 4 blynedd | 4 blynedd | 10 mlynedd |
Polisi trwyddedu tacsis newydd arfaethedig
Oedran/safon allyriadau’r cerbyd ar adeg y cais cyntaf | O dan 5 mlwydd oed ac yn bodloni neu’n rhagori ar safon Ewro 6 |
Uchafswm oedran trwyddedadwy (oni bai bod y cerbyd yn cydymffurfio â pholisi amodau eithriadol) | 10 mlwydd oed |
Oedran y bydd angen profi’r cerbyd bob blwyddyn / cyflwyno trwydded 12 mis
| O dan 5 mlwydd oed |
Oedran y bydd angen profi’r cerbyd bob 6 mis / cyflwyno trwydded 6 mis | Dros 5 mlwydd oed |
Er mwyn cyflawni’r amcanion a nodir yn y cynllun hwn, rhaid rhoi lle ychwanegol ar y ffordd i drafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â theithio llesol yng nghanol y ddinas. Drwy wella’r seilwaith, bydd teithio cynaliadwy yn dod yn ddewis cynt a mwy deniadol.
Mae’r cynlluniau sy’n cael eu cynnig ar y cam hwn yn y broses yn dangos cysyniad yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni yn unig. Bydd yr holl brojectau hyn yn destun ymarfer tendro cystadleuol, felly nid oes unrhyw gynlluniau manwl ar hyn o bryd. Mae’r lluniau isod yn dangos bwriad y Cyngor o ran cynllun y ffordd. Bydd ymgynghoriad manwl yn cael ei gynnal ar bob project pan fydd y cynlluniau manwl ar gael.
Lawrlwythwch fap ac eglurhad o’r newidiadau i’r Sgwâr Canolog, Stryd y Castell a Heol y Porth (947kb PDF)
Link opens in a new window
Lawrlwythwch fap ac eglurhad o newidiadau i Stuttgart Strasee, Plas Dumfries, Rhodfa'r Orsaf a Ffordd Churchill (232kb PDF)
Link opens in a new window
Gorllewin Canol y Ddinas (GCDd)
Prif nod y cynllun yw sicrhau’r Datblygiad Sgwâr Canolog a’r Gyfnewidfa Drafnidiaeth newydd, wrth hefyd Wella Ansawdd Aer yn Ardal Reoli Ansawdd Aer Canol y Ddinas. Gellid cyflawni hyn drwy waredu traffig trwodd o Heol y Porth a chreu gosodiad ffordd newydd fydd yn gwella ac yn cysylltu’r rhwydwaith bysus cyfredol â’r Gyfnewidfa newydd, Sgwâr Canolog, yr Orsaf Ganolog ac Ardal Fenter Canol y Ddinas. Yn ogystal, gallai’r cynllun gynnig mwy o ddiogelwch i gerddwyr drwy gyfleusterau croesi gwell i gerddwyr, cyfyngiadau cyflymder 20mya a gwelliant i’r ardal gerddwyr y tu allan i’r stadiwm cenedlaethol. Gallai’r cynllun hefyd osod rhwydwaith o draciau beics â grisiau i gysylltu’r ardal â’r feicffordd arfaethedig ar Stryd y Castell a llwybrau’r Taith Taf.
Gogledd Canol y Ddinas (GoCDd)
Prif nod y cynllun hwn yw sicrhau bod Heol y Castell yn cydymffurfio ag Ansawdd Aer erbyn 2021 a gosod prif Feicffordd ar ei hyd. Bydd gosod y lôn feics a lleihau gofod ar y briffordd yn galluogi lleihau traffig ddigon i dargedu’r broblem ansawdd aer. Gallai croesfannau gwell i gerddwyr ag amserwyr sy’n cyfrif i lawr hefyd gynnig mwy o ddiogelwch i gerddwyr.
Dwyrain Canol y Ddinas (DCDd)
Prif nod y cynllun yw cynnig deinamig newydd i’r rhwydwaith bysus, wrth gysylltu prif Feicffyrdd a gwella’r amgylchedd i gerddwyr y tu allan i Orsaf Heol-y-Frenhines.
Gellid cyflawni hyn drwy gynnig mesur blaenoriaeth i fysus gydol ardaloedd Rhodfa'r Orsaf a Ffordd Churchill fyddai’n cynnig llwybrau newydd i fysus, gan fynd â nhw i ffwrdd o Ardal Rheoli Ansawdd Aer Canol y Ddinas ac yn agosach i brif ardaloedd megis Gorsaf Heol-y-Frenhines a’r ardal siopa. Mae’r system llwybrau bysus newydd yn allweddol hefyd o ran galluogi mynediad at y Gyfnewidfa Draffig o fynedfa’r dde, a galluogi iddo weithio’n effeithiol hefyd ar ddyddiau digwyddiadau mawr. Gellid gosod prif Feicffordd i gysylltu dwyrain canol y ddinas ag Ardal Fenter Canol y Ddinas, a chysylltu’r prif Feicffyrdd arfaethedig eraill. Gallai gwelliannau i gerddwyr ar Blas Dumfries a Rhodfa'r Orsaf wella diogelwch i gerddwyr a gwella cysylltiadau i Orsaf Heol-y-Frenhines ac Ardal Fenter Canol y Ddinas.