Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn gyfrifol am orfodi rhai cyfyngiadau parcio penodol. Gorfodir tramgwyddau parcio eraill gan Heddlu De Cymru. I adrodd problem parcio i’r heddlu, ffoniwch 101.
Rhowch wybod i ni os yw’r broblem parcio yn ymwneud ag un o’r canlynol:
- cerbyd sy’n rhwystro eich dreif eich hun (efallai eich bod am wneud cais am farciau H-Bar)
- parcio mewn lle i bobl anabl
- parcio mewn man llwytho
- parcio ar linell felen
- rhwystro man parcio penodol i feddyg
- rhwystro cwrbyn isel i gerddwyr
- talu ac arddangos
- parcio preswylwyr
- parcio amser cyfyngedig
- man parcio clwb ceir y ddinas
- cerbydau wedi'i gadael
Rhowch gymaint o fanylion â phosibl.
Gallwch hefyd adrodd problem parcio drwy ffonio 2087 2088.
Os gwelwch broblem barcio ar ddydd Sadwrn, dydd Sul neu Wyliau Banc a bod angen tynnu sylw rhywun at y mater ar unwaith, ffoniwch 029 2087 2088.
Gwrandwch ar y wybodaeth ‘tu allan i oriau’ a dewiswch opsiwn 4. Cewch eich trosglwyddo i’r Gwasanaeth Parcio Tu Allan i Oria.
I helpu i atal parcio anystyriol o flaen eich tramwyfa neu garej efallai eich bod am wneud cais am farciau diogelu mynediad, neu farciau H-Bar.
Llinellau gwynion yw’r rhain a gaiff eu gosod ar y ffordd ac sy’n hawdd eu hadnabod er mwyn helpu i atal gyrwyr rhag parcio a chreu rhwystr.
Mae tâl a thelerau ac amodau yn berthnasol.