Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Wordsworth Avenue

​Rydym yn cynnig cynllun gwella priffyrdd a hoffem glywed gennych.

Cyfeirnod y Cynllun: WA001
Math o gynllun: Parcio / Stryd yr Ysgol / Traffig
Ward: Plasnewydd 

Daw'r ymgynghoriad hwn i ben ar 18 Gorffennaf 2022

Ffyrdd yr Effeithir arnynt:
  • Cowper Place
  • Oxford Lane (rhwng Wordsworth Avenue a Oxford Street)
  • Southey Street
  • Wordsworth Avenue 
  • Unrhyw ffyrdd y gellir cyrraedd dim ond o'r uchod  ​

Trosolwg o'r cynllun​

Mae pryderon wedi'u codi ynghylch:
  • Parcio anystyriol gan bobl sydd ddim​ yn drigolion
  • Gyrwyr sy'n anwybyddu'r cyfyngiad "Mynediad yn Unig" presennol ar Wordsworth Avenue
  • Gyrwyr sy'n defnyddio Wordsworth Avenue i wneud tro pedol i osgoi'r cyfyngiad "dim tro pedol" ar Heol Casnewydd
  • Problemau gyda cherbydau y tu allan i Stryd bresennol yr Ysgol ar Stryd Southey , a; 
  • Diogelwch symudiadau cerbydau yng nghyffordd Heol Casnewydd / Wordsworth Avenue.









Er mwyn helpu i ryddhau mwy o leoedd parcio i breswylwyr, gwella ymddygiad gyrwyr a gwneud yr ardal o amgylch yr ysgol yn fwy diogel yn ystod amseroedd gollwng a chasglu, rydym yn cynnig:


Cynyddu Parcio i Breswylwyr​​

Bydd parcio trwyddedau preswylwyr yn cynyddu fel y bydd yr holl ofod ar ochr y ffordd yn caniatáu mannau parcio (ac eithrio lle mae llinellau melyn yn bresennol). 

Gellir cyflwyno rhai llinellau melyn newydd hefyd lle bo angen er mwyn atal parcio rhwystrol. 

Ni wneir unrhyw newidiadau i unrhyw daliadau parcio na mannau parcio i'r anabl 

Cynyddu maint Stryd yr Ysgol​

Bydd Stryd yr Ysgol ar Stryd Southey yn cael ei hehangu i gyffordd Wordsworth Avenue / Newport Road. 


Gwahardd y troad i'r dde o Heol Casnewydd (ac eithrio deiliaid trwyddedau)

Er mwyn gwneud cyffordd Heol Casnewydd/Wordsworth Avenue yn fwy diogel, byddwn yn atal cerbydau rhag troi i'r dde wrth y gyffordd hon.

Caniateir i ddeiliaid trwyddedau parcio preswylwyr a deiliaid trwyddedau Stryd yr Ysgol droi i'r dde heb dderbyn dirwy. 

Dweud eich dweud​​

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
 
Yn dilyn yr adborth a gawsom, mae penderfyniad wedi’i wneud i fwrw ymlaen â’r cynllun.

Fodd bynnag, cynigiwyd gwahardd y troad i'r dde o Heol Casnewydd yng Nghoedlan Wordsworth, ac eithrio deiliaid trwyddedau. Ni fyddwn yn gwneud y newid hwn ar hyn o bryd.  

Rydym wrthi'n adolygu'r gyffordd hon ymhellach ac yn gweithio ar gynnig diwygiedig, gydag unrhyw newidiadau arfaethedig yn destun ymgynghoriad ac yn cael eu gweithredu fel rhan o raglen ar gyfer mentrau teithio llesol ehangach yn yr ardal.  

Cynigiwyd hefyd mai i breswylwyr sy’n ddeiliaid trwydded yn unig y byddai pob man parcio. Yn dilyn adborth bydd nifer fach o gilfachau’n rhai parcio â thalu, fel y gall ymwelwyr barcio am hyd at 4 awr heb fod angen trwydded. 

Byddwn nawr yn dechrau'r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT)​. Fel rhan o hyn, byddwch yn gallu gweld dyluniadau parcio manwl ac yn gallu gwrthwynebu'r cynllun yn ffurfiol, os byddwch am wneud hynny. 

Mae gwneud GRhT yn broses hir a gall gymryd rhwng 6 i 9 mis i'w gwblhau.





© 2022 Cyngor Caerdydd