Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymgynghoriad ar Barth Parcio Bae Caerdydd

​​​​​​Rydym yn cynnig cynllun gwella priffyrdd a hoffem glywed gennych.  

Cyfeirnod y Cynllun:  CPZ/K/KA​

Math o gynllun:  Parcio

Ward:  Butetown





Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 08/09/2022.


GORLLEWIN: 

  • Stryd Bute
  • Plas Burt
  • Arglawdd Clarence
  • Plas Clarence 
  • Heol Hamadryad 
  • Plas Harrowby  
  • Stryd Harrowby 
  • Lôn Harrowby  
  • Stryd Hunter  
  • Stryd Pomeroy 
















DE: 

  • Esplanâd Bute
  • Stryd Dudley 
  • Llys Dudley 
  • Plas Eleanor 
  • Esplanâd Windsor 
  • Teras Windsor










Unrhyw ffyrdd eraill sydd ond ar gael o'r uchod.  


Rydym yn cynnig cyflwyno parth parcio ym Mae Caerdydd. Ardal lle mae'r holl barcio ar y stryd yn cael ei reoli yn ystod amseroedd penodol yw parth parcio. 

Mae hyn yn helpu i ryddhau mwy o le parcio i drigolion, gwella diogelwch a hyrwyddo teithio llesol.
 
Yn y parth parcio newydd: 

  • Bydd yr holl fannau parcio anghyfyngedig presennol naill ai'n dod yn fannau parcio ar gyfer Deiliad Trwydded yn Unig neu’n fannau parcio "Aros Cyfyngedig" 2 awr am ddim (gydag eithriad i ddeiliaid trwydded).



  • Bydd mannau parcio aros cyfyngedig yn weithredol rhwng 8am ac 8pm, bob dydd.


  • Bydd y trefniadau parcio i Ddeiliaid Trwyddedau yn y parth yn berthnasol 24 awr y dydd, bob dydd. Mae hyn yn sicrhau bod rhai lleoedd parcio ar gael bob amser i breswylwyr.



  • Caiff unrhyw drefniadau parcio presennol ar gyfer deiliaid trwydded yn unig eu diwygio fel eu bod yn berthnasol am 24 awr hefyd.


  • Daw Plas Eleanor a Llys Dudley yn "Ardaloedd Parcio â Thrwydded" (APThau). Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw fannau parcio wedi'u paentio ar y ffordd, ond bydd angen i bob cerbyd arddangos trwydded o hyd.  Bydd arwyddion wrth fynedfa'r ardal yn rhoi gwybod i yrwyr am hyn. 



  • Bydd deiliaid trwyddedau’n gallu parcio ar eu stryd neu ar y stryd agosaf sydd ar gael o fewn y parth.


  • Ni wneir unrhyw newidiadau i unrhyw ffioedd parcio, nac i unrhyw fannau parcio Bathodyn Glas.


Dweud eich dweud

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach ar gau. 
 
Rydym yn adolygu'r holl ymatebion ac yn penderfynu os ydyn ni'n bwrw ymlaen neu beidio gyda'r cynllun.
 
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y byddwn yn gwneud penderfyniad.


© 2022 Cyngor Caerdydd