Gall moderneiddio Systemau Trafnidiaeth Deallus, neu STD, Caerdydd eich helpu i wneud y canlynol:
- Cynllunio teithiau'n hawdd ar draws sawl dull trwy roi gwybodaeth yn uniongyrchol yn eich dwylo i helpu i optimeiddio eich llwybr, osgoi tarfu, gwirio opsiynau hygyrchedd.
- Mwynhau canol Dinas ddiogel a bywiog drwy gyfyngu mynediad yn ddeinamig i draffig mewn ardaloedd hamdden a gwella eich mynediad at ddata argaeledd parcio deinamig.
- Osgoi tagfeydd a mannau trafferthion llygredd drwy symud traffig i ffwrdd yn ddeinamig o'r rhain.
- Byw mewn amgylchedd iachach drwy gyfyngu ar fynediad cerbydau sy'n llygru.
- Cael mynediad at wybodaeth amser real cyfoethocach a gwell systemau blaenoriaeth bysiau.
- Cerdded a beicio'n fwy diogel drwy symud traffig i ffwrdd o lwybrau beicio a cherdded diogel a dymunol a gwella blaenoriaeth goleuadau traffig cerddwyr a beicwyr.
Er mwyn sicrhau'r manteision hyn a llawer o rai eraill, mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu Strategaeth Systemau Trafnidiaeth Deallus Drafft sy'n nodi ein gweledigaeth i 2030 a thu hwnt. Bydd yn allweddol wrth wireddu'r targedau sydd wedi'u gosod o fewn Caerdydd Un Blaned a'r Papur Gwyn Trafnidiaeth.
Gall STD ein helpu i ddatrys rhai o'n heriau allweddol:
Dweud eich dweud
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach ar gau.