Mae’r cyngor yn rhoi gwybod i breswylwyr am gynlluniau i wneud newidiadau i’r briffordd ar Heol Atlas ger y gyffordd ag Heol Beda.
Codwyd pryderon ynghylch cyflymder cerbydau a diogelwch cerddwyr yma. Mewn ymateb i hyn, mae swyddogion y Cyngor wedi ymchwilio i opsiynau er mwyn gwneud gwelliannau a fydd yn helpu i greu amgylchedd priffordd sy’n fwy diogel.
Y prif broblemau diogelwch ar y ffordd a nodwyd oedd cyflymder cerbydau a diogelwch cerddwyr.
Mae’r cynllun hwn felly wedi’i ddatblygu i wneud y canlynol:
- Lleihau cyflymder cerbydau
- Creu croesfan dan reolaeth i gerddwyr
Bydd y mesurau’n creu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr, yn benodol i ddefnyddwyr agored i niwed a disgyblion ysgol, a bydd yn gwella hygyrchedd yr ardal gymunedol, y siopau a'r gwasanaethau bysus lleol.
Rhagor o wybodaeth am fesurau rheoli traffig
Croesfan Sebra â Bwrdd. Croesfan sebra sy’n cynnwys bwrdd arafu, neu sydd ar gyffordd fwrdd, yn rhan o fesurau ehangach i arafu traffig neu ar ei ben ei hun.
Cyffordd Fwrdd. Mae cyffordd fwrdd yn debyg i dwmpath ffordd. Dyrchefir y gyffordd gyfan i greu platfform, sy’n lleihau cyflymder cerbydau. Mae darparu cyffordd fwrdd yn creu cyffordd ddiogelach drwy arafu’r holl gerbydau sy’n agosáu at y gyffordd gan felly gynnig allanfa ddiogelach o bob rhan o'r gyffordd.