Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynigion Parcio Heol Llanfair

​​​Rydym yn cynnig newidiadau i'r ffordd y mae parcio'n cael ei reoli ar Heol Llanfair a'r strydoedd cyfagos.

Nod y newidiadau yw gwella parcio yn yr ardal honno. Oherwydd mwy o alw gan breswylwyr, rydym am sicrhau bod gofod ar y stryd yn cael ei flaenoriaethu i breswylwyr a'u hymwelwyr. 


Beth rydyn ni’n ei gynnig? 

Rydym yn cynnig cyfuniad o fannau i ddeiliad trwydded yn unig a mannau talu ac aros ar: 
​​
  • Heol Llanfair 
  • Beacon Street 
  • Bloom Street 
  • Meadow Street 


Byddem yn rhoi mannau i ddeiliaid trwydded yn unig o flaen yr eiddo a mannau aros a thalu lle nad oes lle o flaen yr eiddo. 

Yn ogystal, cynigir un man deiliaid trwydded yn unig y tu allan i eiddo ar hyd Heol Llandaf, rhwng cyffyrdd Heol Penhill a Heol Llanfair.  

Bydd unrhyw fannau parcio i’r anabl ar y stryd yn aros yn eu lle. 

Bydd modd i breswylwyr brynu trwyddedau i barcio ar y strydoedd perthnasol. Bydd trwyddedau i breswylwyr ac ymwelwyr ar gael ar gyfer eiddo cymwys yn unig. 

Bydd deiliaid trwydded yn cael eu heithrio o'r cyfyngiadau mannau talu ac aros ac yn gallu parcio yn eu stryd neu'r stryd nesaf sydd ar gael. Ni fyddai deiliaid trwydded bellach yn cael eu cyfyngu i barcio ar un stryd. 

Bydd cyfyngiadau deiliaid trwydded yn berthnasol drwy'r dydd bob dydd fel bod rhywfaint o le ar y ffordd bob amser wedi'i gadw ar gyfer preswylwyr.  Bydd y mannau talu ac aros ar waith naill ai o 8am i 7pm o ddydd Llun i ddydd Sul neu o 8am i 10pm o ddydd Llun i ddydd Sul. 


Dweud eich dweud

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 17/03/2023.​

​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd