Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynlluniau arbrofol

​​​​​​​​​​Gan ddefnyddio Gorchymyn Rheoli Traffig Arbrofol (GRhTA), gallwn gyflwyno cynllun arbrofol a rhoi cynnig arno cyn ei wneud yn barhaol.

Efallai y byddwn ni am dreialu cynllun oherwydd gallai fod: 

  • y cyntaf o'i fath yng Nghaerdydd, 
  • yn aneffeithiol neu â sgîl-effeithiau annerbyniol,
  • angen newidiadau cyflym neu gael ei waredu, neu
  • nid yw’n rhan o ddeddfwriaeth arferol. 






Beth yw hyd y cynllun

Hyd arferol GRhTA a chynllun arbrofol yw hyd at 18 mis.

Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn monitro'r cynllun i weld a yw'n gweithio.

Ymgynghoriad

Cyn cyflwyno cynllun arbrofol, efallai y byddwn yn cynnal: 

  • arolygon defnyddwyr, 
  • ymgynghoriadau, a
  • monitro parcio, traffig a cherddwyr. 





Gall ymgynghoriadau olygu siarad â:

  • phreswylwyr,
  • busnesau,
  • cymdeithasau crefyddol a chymdeithasol, a
  • defnyddwyr eraill yr ardal.

Monitro 

Ar ôl y treial 18 mis, rydym yn cynnal mwy o arolygon ac ymgynghoriadau i wirio:

  • newidiadau, effeithiau a manteision, a
  • barn trigolion, busnesau a defnyddwyr eraill.




Yna gallwn benderfynu a ddylid gwneud y cynllun yn barhaol ai peidio. 

Cynlluniau arbrofol cyfredol







© 2022 Cyngor Caerdydd