Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun Peilot Croesfan Sebra Syml

​Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu treial o groesfannau sebra syml nas rhagnodir mewn tri lleoliad yng Nghaerdydd. 

Y lleoliadau yw:

  • Heol yr Orsaf/ Evansfield Road 
  • Heol yr Orsaf/ Hawthorn Road East
  • Bishops Road/Heol Merthyr









Nod y treial yw deall effeithiau a chanfyddiadau defnyddwyr y croesfannau sebra symlach hyn a phenderfynu ar eu defnydd pellach posibl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu VivaCity i gasglu data dienw drwy ddefnyddio synwyryddion dadansoddi fideo Deallusrwydd Artiffisial a TRL i ddadansoddi'r data ar eu cyfer a chynnal ymchwil canfyddiad defnyddwyr, gan gynnwys gyda grwpiau anabledd.


Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y croesfannau sebra yn y cynllun peilot a chroesfan sebra "benodedig" arferol?

Rhaid bod gan groesfan sebra "benodedig" gyfres o stribedi du a gwyn bob yn ail gyda llinellau ildio ar y naill ochr a'r llall, goleuadau croesi ar bob pen i'r groesfan, llinell o stydiau yn nodi'r ardal groesi a marciau igam-ogam.

Mae'r croesfannau sebra symlach nad ydynt yn rhai penodedig sy’n rhan o’r cynllun peilot hwn yn defnyddio'r marciau sebra du a gwyn a’r llinellau ildio, ond nid oes ganddynt holl nodweddion eraill y groesfan benodedig.


Pam mae’r cynllun peilot hwn yn digwydd?

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd am annog mwy o bobl i deithio'n fwy llesol a chynaliadwy, a chydnabod pwysigrwydd cerdded i gymunedau lleol.

Mae dyluniad symlach y croesfannau sebra nad ydynt yn rhai penodedig yn lleihau'r gost o weithredu a chynnal croesfannau newydd yn sylweddol gan nad ydynt, yn benodol, yn cynnwys goleuadau croesi.  

Mae'r dyluniad symlach yn golygu y gellir eu gosod yn gyflymach a chyda chyn lleied o darfu â phosib.

Ar ben hynny, heb y marciau igam-ogam, gellir gosod y croesfannau ar linell gerdded o ddewis cerddwyr, yn uniongyrchol ar draws ceg y gyffordd.

Mae data pleidleisio YouGov a gyhoeddwyd ar 8 Tachwedd 2021 ac a gomisiynwyd gan Strydoedd Byw wedi canfod:

  • y byddai 83% o oedolion yn teimlo'n fwy hyderus yn croesi'r ffordd gyda marciau sebra
  • bod 29% o oedolion wedi cael eu taro neu bron â chael eu taro wrth ffordd ochr
  • bod 65% o oedolion yn credu y dylai llywodraeth y DU awdurdodi marciau sebra ar ffyrdd ymyl.
  • bod 76% o rieni yn dweud y byddai marciau sebra ar ffyrdd ymyl yn golygu y bydden nhw'n fwy tebygol o gerdded eu plant i'r ysgol.







Comisiynodd Manceinion Fwyaf y Transport Research Laboratory (TRL) i gynnal ymchwil i effaith defnyddio marciau sebra ar ffyrdd ymyl.  

Yn ôl arsylwadau mewn dau safle prawf dros gyfnod o bythefnos:

  • Ildiodd mwyafrif y gyrwyr i gerddwyr gyda'r marciau croesi o'i gymharu â llai na hanner heb unrhyw groesfan.
  • Doedd dim cynnydd yn y gwrthdaro rhwng pobl mewn ceir a'r croesfannau hynny.
  • Canfu arolygon defnyddwyr fod fwy na heb ddealltwriaeth gyhoeddus gyffredinol o farciau sebra ar ffyrdd ymyl.





Nid yw'r rheoliadau presennol yn darparu safon ar gyfer gosod croesfannau sebra symlach ar ffyrdd ymyl yng Nghymru. 

Bydd y dystiolaeth a gesglir o’r cynllun peilot hwn yn helpu i ganfod a yw'n briodol newid y rheoliadau hyn er mwyn ei gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol osod croesfannau sebra symlach ar ffyrdd ymyl yn y dyfodol.


Beth sy'n digwydd os ydw i'n parcio ar groesfan sebra?

Ar hyn o bryd mae'n drosedd parcio o flaen cyrbiau isel, a gallai unrhyw fodurwr sy'n gwneud hyn dderbyn tocyn parcio.


Oes gan gerddwyr flaenoriaeth ar groesfannau sebra?

Mae’r newidiadau a wnaed i Reolau’r Ffordd Fawr ar 29 Ionawr 2022 yn rhoi blaenoriaethau cliriach a chryfach i gerddwyr.  

Mae rheolau’r ffordd fawr bellach yn nodi'n glir y dylai gyrwyr ar gyffordd ildio i gerddwyr sy'n croesi neu sy’n aros i groesi ffordd yr ydych yn troi i mewn iddi.  

Dylai gyrwyr hefyd ildio i gerddwyr sy'n aros i groesi croesfan sebra.   

Gallai methu â stopio pan fydd cerddwr yn barod i groesi ar groesfan arwain at hysbysiad cosb benodedig a 3 phwynt ar eich trwydded.


Pam mae’r lleoliadau hyn wedi cael eu dewis ar gyfer y cynllun peilot?

​Mae'r lleoliadau wedi'u dewis gan fod llawer iawn o gerddwyr yn eu defnyddio ac mae ganddynt seilwaith presennol eisoes ar waith o ran cyrbiau isel, palmentydd botymog, cyfyngiadau parcio a therfynau cyflymder 20mya.  

Felly, y cyfan y bydd angen ei wneud i osod y croesfannau sebra symlach yw newid y marciau ffordd.


Sut bydd y cynllun peilot yn cael ei fonitro?

Mae synwyryddion wedi'u gosod yn lleoliadau’r cynllun peilot i gasglu data dienw ar ryngweithiadau cerddwyr a cherbydau cyn ac ar ôl i'r croesfannau gael eu gosod. 

Bydd arolygon defnyddwyr hefyd yn cael eu cynnal.


Pwy sy'n ariannu'r cynllun peilot? 

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r cynllun peilot.




Beth fydd yn digwydd ar ôl y cynllun peilot?

Ar ôl gosod y croesfannau a chasglu digon o ddata, bydd y data'n cael ei ddadansoddi a bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn nodi'r canlyniadau ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Bydd canlyniadau'r cynllun peilot yn helpu i benderfynu a ddylid newid rheoliadau er mwyn gallu gosod croesfannau sebras symlach mewn lleoliadau eraill.

Bydd y penderfyniad i gadw'r croesfannau yn y tri lleoliad prawf yng Nghaerdydd yn dibynnu ar ganlyniad y cynllun peilot.
© 2022 Cyngor Caerdydd