Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Y cod eira

​Mae’r Llywodraeth wedi paratoi ‘Cod Eira’ sy’n rhoi cyngor ar glirio eira ac iâ oddi ar balmentydd

Nid oes cyfraith yn eich atal rhag clirio eira ac iâ o’r palmant y tu allan i’ch cartref neu o fannau cyhoeddus. Mae’n annhebygol y cewch eich siwio neu’ch dwyn i gyfrif yn gyfreithiol am unrhyw anafiadau ar y palmant os byddwch wedi ei glirio’n ofalus.

Dilynwch y cod eira wrth glirio eira ac iâ yn ddiogel.

Clirio eira ac iâ yn gynnar yn ystod y dydd​


Mae’n haws symud eira newydd, mân yn hytrach nag eira caled sydd wedi’i gywasgu ar ôl i bobl gerdded arno. Felly os yw’n bosibl, dechreuwch symud yr eira a’r iâ yn y bore. Os byddwch yn tynnu haen uchaf yr eira yn y bore, bydd unrhyw haul yn ystod y dydd yn helpu i doddi’r iâ oddi tano. Yna gallwch roi halen dros y palmant cyn iddi nosi i’w atal rhag ail-rewi dros nos.

Atal llithro


Byddwch yn fwy gofalus wrth glirio eira ac iâ oddi ar stepiau a phalmentydd serth - efallai y bydd angen i chi ddefnyddio mwy o halen yma.

Os byddwch yn clirio eira ac iâ eich hun, cymerwch bwyll - peidiwch â gwneud y palmentydd yn fwy peryglus drwy adael iddynt ail-rewi. Ond peidiwch ag osgoi clirio palmentydd rhag ofn i rywun gael ei anafu. Cofiwch, mae cyfrifoldeb ar unrhyw un sy’n cerdded ar eira ac iâ i gymryd gofal eu hunain hefyd.

Dilynwch y cyngor isod i sicrhau eich bod yn clirio’r llwybr troed mewn ffordd ddiogel ac effeithiol.

Defnyddiwch halen neu dywod – nid dŵr


Os byddwch yn defnyddio dŵr i doddi’r eira, gallai ail-rewi a throi’n iâ du.

Gan na ellir gweld iâ du, a gan ei fod yn llithrig iawn, mae’n fwy tebygol o achosi anafiadau. Gallwch atal iâ du drwy ledaenu halen ar yr ardal rydych wedi’i chlirio. Gallwch ddefnyddio halen bwrdd neu halen golchi llestri arferol – dylai llwy fwrdd i bob metr sgwâr a gliriwyd fod yn ddigon. Peidiwch â defnyddio graen o finiau graen – bydd angen defnyddio hwnnw i glirio’r ffyrdd.

Gofalwch i beidio â thaenu halen ar blanhigion neu laswellt oherwydd y gallai eu niweidio. Os na fydd gennych ddiogon o halen, gallwch ddefnyddio tywod neu ludw. Ni fydd y rhain yn atal y llwybr rhag rhewi gystal â halen, ond byddant yn lleihau ffrithiant dan draed.

Cymerwch ofal wrth benderfynu ble y byddwch yn symud yr eira


Pan fyddwch yn palu eira, byddwch yn ofalus i’w roi mewn man lle nad yw’n rhwystro llwybrau neu ddraeniau pobl. Cofiwch greu llwybr ar hyd canol yr ardal rydych chi’n ei chlirio yn gyntaf, fel bod gennych arwyneb clir i gerdded arno. Yna palwch yr eira o ganol y llwybr i’r ymylon.

Cynigiwch glirio llwybrau eich cymdogion


Os bydd eich cymydog yn cael trafferth wrth fynd a dod o’i gartref, cynigiwch glirio’r eira a’r iâ o amgylch ei eiddo ef hefyd. Sicrhewch fod cymdogion sy’n hŷn neu’n anabl yn iawn os bydd y tywydd yn oer. Os byddwch yn poeni amdanynt, cysylltu â ni​​.

Eira - Gwybodaeth ac Awgrymiadau


Mae llawer o gamau bach y gallwch eu cymryd i baratoi ar gyfer yr eira ac i sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf pan ddaw’r eira.

1) ​​Yn gyntaf, byddwch yn barod – Cadwch lygad barcud ar ragolygon y tywydd ar y teledu, gwrandewch ar y radio lleol neu ewch i wefan y swyddfa dywydd​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd am ragolygon lleol a rhybuddion tywydd.

2) ​Os ydych yn bwriadu teithio a hithau’n bwrw eira, ystyriwch: 
  • Oes rhaid i chi deithio?
  • Ydych chi wedi edrych ar ragolygon y tywydd a chyflwr y ffyrdd ac wedi ystyried y cyngor a roddwyd yn ofalus?
  • Oes unrhyw un yn gwybod i ble rydych yn mynd, a phryd rydych yn gobeithio cyrraedd?
  • A fyddai’n syniad da mynd â dillad cynnes, diodydd poeth, bwyd, esgidiau glaw, tortsh a rhaw?
  • A yw’n briodol i chi deithio o ystyried cyflwr y ffyrdd?
  • Ydych chi’n defnyddio goleuadau wedi’u gostwng os yw’n anodd gweld a hithau’n bwrw eira?
  • Ydych chi’n gyrru yn y gêr uchaf posibl ac yn osgoi brecio neu gyflymu’n rhy sydyn?
  • Ydych chi’n cadw pellter stopio diogel?
  • Ydych chi’n cadw golwg ofalus ar ddefnyddwyr eraill y ffordd?

​​​3) Gwrandewch ar eich gorsaf radio leol neu ewch ar wefan Cyngor Caerdydd i gael gwybod a yw ysgol eich plentyn ar agor ai peidio

  • Oes grŵp cymunedol a all gynorthwyo yn ystod y tywydd garw?

5) Cysylltwch ag aelodau o’ch teulu a’r gymuned sy’n agored i niwed yn ystod cyfnodau o eira a thywydd oer

​ ​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd