Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwaith Cynnal a Chadw Ffyrdd yn y Gaeaf

​​​​​​​​​​​​​​Mae gennym gynlluniau ar waith i sicrhau bod y ddinas yn parhau i symud dros gyfnod y gaeaf.​


​​Rydym yn trin ffyrdd â graean pryd bynnag y rhagwelir ia, rhew, eira, neu law rhewllyd. Mae hyn yn rhagofal.

Mae swyddog ar ddyletswydd ar gael 24 awr y dydd rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth i benderfynu a oes angen trin ffyrdd. Mae ein hadnoddau wrth law yn ystod y cyfnod hwn.

Os nad ydym yn trin ffordd yn yr amodau hyn, mae hyn oherwydd ein bod wedi ei thrin yn ddiweddar ac mae digon o raean eisoes ar y ffordd. ​​

​Gyda mwy na 600 milltir o ffyrdd yng Nghaerdydd, nid ydym yn trin pob ffordd. 

Rydym wedi ymgynghori â'r gwasanaethau brys a darparwyr trafnidiaeth i nodi rhwydwaith o ffyrdd sy'n cael blaenoriaeth. 

Mae'r rhwydwaith hwn yn cynnwys: 

  • pob ffordd A,
  • y rhan fwyaf o ffyrdd B,
  • rhai ffyrdd C, a
  • ffyrdd eraill heb eu dosbarthu.
     

Gweld y llwybrau trin ar y map.

Byddwn yn trin ein rhwydwaith trin dros y gaeaf o lwybrau beicio. Byddwn hefyd yn trin llwybrau beicio sy'n ffurfio rhan o lôn gerbydau lle mae'r ffordd yn cael ei thrin â graean. ​​​

Mae gennym rwydwaith o lwybrau troed sy'n cael blaenoriaeth fydd yn cael eu trin.

Y llwybrau troed sy'n cael y flaenoriaeth uchaf, yn seiliedig ar nifer yr ymwelwyr, yw'r prif ardaloedd i gerddwyr yng nghanol y ddinas:​​

  • Stryd Caroline,
  • Ffordd Churchill,
  • Heol y Dug,
  • Y Gwter,
  • Plas y Neuadd,
  • Heol Pont-yr-Ais,
  • Stryd Fawr,
  • Hills Street,
  • Lôn y Felin,
  • Stryd Ogleddol Edward,
  • Heol y Frenhines,
  • Heol Eglwys Ioan,
  • Heol Eglwys Fair,
  • Rhodfa'r Orsaf,
  • Yr Ais,
  • Heol y Drindod,
  • Heol y Cawl, a
  • Stryd Working.​

Mae gennym 12 cerbyd i ledaenu graean ar y ffyrdd ac 1 yn benodol ar gyfer llwybrau beicio. Rydym yn defnyddio erydr cyfnewidiol i helpu i glirio eira o'r ffyrdd os oes angen.​

Os nad yw eich ffordd yn rhan o lwybr sy’n cael ei drin, efallai y byddwn yn darparu bin graean cymunedol. Byddwn yn asesu'r lleoliad ac yn penderfynu a fyddai hyn yn ymarferol a ble y byddai hynny'n ymarferol. Mae'r meini prawf ar gyfer hyn yn seiliedig ar nodweddion ffyrdd fel bryniau a throadau, a phellter o'r biniau graean presennol. 

Ar hyn o bryd mae dros 400 o finiau graean ar draws Caerdydd. Maent ar gyfer y gwasanaethau brys a defnydd cyhoeddus ar y briffordd. Nid ydynt ar gyfer eiddo preifat, megis tramwyfeydd a llwybrau gardd.

Ni allwn ddarparu bin graean os nad yw'r ffordd yn bodloni'r meini prawf.

Efallai y byddwn yn cael gwared ar finiau graean os byddwn yn derbyn adroddiadau dro ar ôl tro am ddifrod neu fandaliaeth.

Os oes problem gyda bin graean neu os yw'n wag, rhowch wybod i ni.

Adroddwch fod bin graean wedi torri neu'n wag o dan 'celfi stryd'. ​​

Mae'n hanfodol cadw Caerdydd i symud pan ragwelir eira, ia neu rew. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall graean gael effaith ar yr amgylchedd os na chaiff ei reoli'n briodol.

Ein nod yw sicrhau bod graean yn cael ei ledaenu'n gywir, a dim ond pan fo angen. Mae ein cerbydau wedi'u graddnodi a'u rhaglennu i gyflawni hyn.​

Lleoliadau biniau graean

176598.40001679:318035.8500061|gritbins|28000
​ ​
​​​​ ​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd