Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Enwi a rhifo strydoedd

​​​​​​​​​Mae’r Cyngor yn gyfrifol am enwi pob ffordd a stryd, ac ar gyfer enwi a rhifo pob eiddo (preswyl, masnachol a diwydiannol) yn Ninas a Sir Caerdydd.

 
Bydd y Post Brenhinol ond yn gallu creu a rhoi cod post i gyfeiriad pan fydd wedi’i enwi a’i rifo gan y Cyngor. 

 
Mae’n rhaid i chi gysylltu â ni i greu neu newid cyfeiriad os ydych yn:

 
  • cynllunio datblygiad newydd, 
  • yn adeiladu eiddo newydd, 
  • yn trosi eiddo presennol, neu 
  • am newid enw eiddo. 

 
Mae’n well i chi roi gwybod i’r Cyngor am ofynion enwi a rhifo newydd cyn gynted â phosibl.​

 
Bydd methu â gwneud hynny’n golygu na fydd y cyfeiriad a grëir yn gyfeiriad swyddogol. Bydd hyn yn arwain at broblemau. 

 
Er enghraifft, ni fydd y Post Brenhinol, cwmnïau cludo na gwasanaethau cyfleustodau’n cydnabod y cyfeiriad; a gallai hyn arwain at anawsterau o ran cofrestru i bleidleisio a chael cardiau credyd. Yn fwy na hyn, gall y gwasanaethau Ambiwlans, Tân a’r Heddlu gael trafferth wrth geisio lleoli’r cyfeiriad mewn achos brys. 

 
Dylid nodi hefyd bod gan y Cyngor y grym i weithredu newidiadau i gyfeiriadau answyddogol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â chonfensiynau safonol a bod Polisi’r Cyngor o ran enwi strydoedd a rhifo’n cael ei gynnal. 

Sut mae gwneud cais? 


 
Gallwch wneud ceisiadau Enwi Strydoedd a Rhifo ar-lein​​​​​​​. Bydd angen i chi gofrestru gyntaf ac yna dewis y ddolen ar gyfer “Enwi Strydoedd a Rhifo” yn y gwymplen. 

Faint fydd hyn yn costio?


 
Mae’r ffioedd a restrir isod yn amcan yn unig a chaiff yr union gostau eu cadarnhau unwaith y caiff y cais ei dderbyn.

​​Cais Enwi Strydoedd a Rhifo​​Cost
​Newidiadau i eiddo sydd yno eisoes (fesul cyfeiriad/adeilad) ​ £178
​Cyfeiriad newydd / Datblygiad newydd ​​​£178 ac £63 yr uned 
​Creu enw ffordd newydd ​£178 ac £63 yr uned 
​Costau ychwanegol ar gyfer datblygiadau / adeilad
o fflatiau dros y rhai a restrir uchod 
​£178 fesul llawr o’r llawr cyntaf ymlaen.
C​ostau ychwanegol ar gyfer newidiadau i osodiad Enwi Stryd a Rhifo ar ôl rhoi hysbysiad, gan arwain at ail-gyflwyno’r cyfeirnodau gyda’r diwygiadau ​£178 ac £63 yr uned 
Ailenwi stryd ar gais preswylydd ​£178 ac £63 yr uned ​
​Cadarnhau cyfeiriad i Gyfreithwyr, Asiantau Chwilio a Thrawsgludwyr​ ​£65


Yn ogystal, bydd angen cynnwys cynllun lleoliad â graddfa briodol (i raddfa ddim llai na 1:1250) ac yn achos datblygiad newydd – cynllun gosodiad, sy’n nodi lleoliad yr eiddo mewn perthynas â’r ardal ddaearyddol. 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

​​Pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais, bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol wedi’u nodi. Pan fydd eich cais yn cael ei gymeradwyo byddwch yn derbyn cadarnhad dros e-bost a’r ffioedd sy’n daladwy, y byddwch yn gallu eu talu am eich cais enwi a rhifo strydoedd ar-lein​​​​​​​​​​​​​​.


 

Unwaith y mae’r broses Enwi Strydoedd a Rhifo wedi dod i ben, byddwch yn derbyn e-bost gyda llythyr cadarnhau. Gallwch fewngofnodi yn ystod unrhyw gam i weld statws eich cais enwi a rhifo strydoedd.


 

Rhoi gwybod am broblem arwydd ffordd

llwytho...
​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd