Mae rhai symudiadau (troadau) penodol a waherddir ar rai o’n ffyrdd. Gall anwybyddu’r gwaharddiadau hyn fod yn beryglus iawn a gall arwain at ddamwain.
Mae troad a waherddir yn digwydd pan fydd gyrwyr yn anwybyddu arwyddion sy'n rhoi cyfarwyddiadau o ran cyfeiriad mae'n rhaid iddynt ei gymryd neu beidio â'i gymryd. Mae gorfodi troadau a waherddir yn helpu i reoli sut mae traffig yn defnyddio’r ffordd ac mae’n ei wneud yn ddiogelach ar gyfer cerddwyr a gyrwyr eraill.
Cydnabod arwydd am droad a waherddir
Rhestrir yr arwyddion hyn yn Rheolau’r Ffordd Fawr, yr hoffech chi gyfeirio ato o bosibl. Maent yn arwyddion naill ai â:
- Saeth wen ar gefndir glas sy’n dangos y cyfeiriad mae’n rhaid i chi ei gymryd, neu
- Cylch coch allanol gyda llinell goch sy’n dangos y cyfeiriad mae’n rhaid i chi beidio â mynd iddo
Arwyddion
Syth ymlaen yn unig: Mae'n rhaid i chi barhau yn syth ymlaen yn unig. Mae’n rhaid i chi beidio â throi i’r chwith, i’r dde neu wneud tro pedol. |
|
Troi i’r chwith yn unig: Mae’n rhaid i chi droi i’r chwith ar y gyffordd o’ch blaen. Mae’n rhaid i chi beidio â throi i’r dde, mynd yn syth ymlaen neu wneud tro pedol. |
|
Troi i’r dde yn unig: Mae’n rhaid i chi droi i’r dde ar y gyffordd o’ch blaen. Mae’n rhaid i chi beidio â throi i’r chwith, mynd yn syth ymlaen neu wneud tro pedol. |
|
Troi i'r chwith: Mae’n rhaid i chi droi i’r chwith. Mae’n rhaid i chi beidio â throi i’r dde, mynd yn syth ymlaen neu wneud tro pedol. |
|
Troi i’r Dde: Mae’n rhaid i chi droi i’r dde. Mae’n rhaid i chi beidio â throi i’r chwith, mynd yn syth ymlaen neu wneud tro pedol. |
|
Gwneud troad i’r dde |
|
Gwneud troad i’r chwith |
|
Gwneud tro pedol |
|
Awgrymiadau gorau er mwyn osgoi Hysbysiad Tâl Cosb (HTC)
Byddwn yn dosbarthu HTCau am fethu cydymffurfio ag unrhyw un o’r arwyddion traffig hyn.
Gall arwyddion troadau a waherddir fod cyn cyffordd, ar y gyffordd neu ynghlwm wrth oleuadau traffig. Y ffordd orau o osgoi cael HTC yw ymgyfarwyddo yn llawn â’r holl arwyddion traffig ar y ffordd sydd yn Rheolau’r Ffordd Fawr a chadw golwg am yr arwyddion uchod bob amser. Weithiau bydd rhai dosbarthiadau o gerbydau, er enghraifft bysus, yn gallu gwneud troad a waherddir fel arall, a chaiff y cerbydau hyn eu dangos bob amser ar yr arwyddion rheoleiddio.