Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwaharddiad ar Fathau Penodol o Gerbydau

​ Nid yw pob ffordd yn addas ar gyfer mathau penodol o gerbydau, neu weithiau ni chaniateir i gerbydau yrru mewn ardaloedd penodol er mwyn sicrhau llif dirwystr y traffig, am resymau amgylcheddol neu oherwydd pryderon diogelwch. 

Adnabod yr arwyddion


Fel arfer, mae arwyddion gyda chylch coch yn ardaloedd sydd wedi’u gwahardd. Weithiau ceir adegau pan fydd modd i gerbydau sydd fel arfer wedi cael eu gwahardd yrru ar hyd y ffyrdd hyn.

Ceir gwybodaeth am y gwahanol fathau o arwyddion a rhai o'r eithriadau mwyaf cyffredin isod.


Arwyddion 
Ystyr
Arwydd Traffig
​Dim cerbydau modur ​Dim cerbydau modur
Dim cerbydau ac eithrio beiciau sy’n cael eu gwthio Dim cerbydau ac eithrio beiciau sy’n cael eu gwthio
Dim cerbydau nwyddau sy'n fwy na'r uchafswm pwysau gros a ddangosir ar yr arwyddDim cerbydau nwyddau sy'n fwy na'r uchafswm pwysau gros a ddangosir ar yr arwydd
Dim cerbydau modur ac eithrio beiciau modur ​Dim cerbydau modur ac eithrio beiciau modur ​
Esboniad o arwyddion eithrio cyffredin
Eithriad​​Ystyr
“Ac eithrio ar gyfer Mynediad”​Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen mynediad i eiddo ar y ffordd honno.
"Ac Eithrio Mynediad i Eiddo Oddi ar y Stryd" ​Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen mynedfa ar gyfer cerbydau i adeilad oddi ar y stryd nad yw ond yn gallu ei ddefnyddio o'r ffordd honno (megis maes parcio oddi ar y stryd).
"Ac Eithrio Deiliaid Trwyddedau"Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai eich bod wedi cael trwydded gan y Cyngor ar gyfer y lleoliad hwnnw ​.
"Ac Eithrio Llwytho"​Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen i chi lwytho/dadlwytho nwyddau i eiddo ar y ffordd honno.
"Ac eithrio llwytho gan gerbydau nwyddau"​Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen i chi lwytho/dadlwytho nwyddau i eiddo ar y ffordd honno ac rydych yn gyrru cerbyd nwyddau.

Cynghorion campus er mwyn osgoi Hysbysiad Tâl Cosb (HTCau)


Rydym yn cyhoeddi HTCau am fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r arwyddion ffyrdd hyn. 

Sicrhewch eich bod yn gwybod pa fath o gerbyd rydych yn ei yrru, fel eich bod yn gwybod pa arwydd sy'n berthnasol i'ch cerbyd, a sicrhewch eich bod yn gwybod ystyr y gwahanol fathau o eithriadau allai fod yn bresennol a gwiriwch a oes rhai ohonynt yn berthnasol. 


​​​​​​
​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd