Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sut i apelio dirwy Traffig sy’n symud

Mae gennych hawl i apelio’r Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) o fewn 28 diwrnod. Mae’n bosibl na fydd apêl a dderbynnir ar ôl y cyfnod hwn o 28 diwrnod yn cael ei hystyried. Peidiwch â thalu os ydych yn bwriadu apelio. Ni fydd y gosb yn cynyddu tra bod eich apêl yn cael ei hadolygu. 


Ar ôl i ni gadarnhau ein bod wedi cael eich sylwadau, bydd yr achos yn cael ei ohirio hyd nes bod swyddog achos yn cyflwyno llythyr, a byddwch chi fel arfer yn cael hwn o fewn 56 o ddiwrnodau.


Appeal Hysbysiad Tâl Cosb Ar-lein​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.


Cofiwch: Perchennog neu logwr cerbyd sy’n gyfrifol hyd yn oed os nad nhw oedd yn gyrru ar adeg y drosedd.


Gallwch chi hefyd wneud eich sylwadau drwy ysgrifennu i’r cyfeiriad canlynol:

Gwasanaethau Parcio
Blwch SP 47
Caerdydd
CF11 1QB


Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi eich cyfeiriad ateb a’ch rhif Hysbysiad Tâl Cosb yn eich llythyr herio. Nodwch rif cofrestru'r cerbyd ac unrhyw dystiolaeth a allai gefnogi'ch cais yn eich barn chi. Peidiwch ag anghofio rhoi gwybod i ni os byddwch chi'n newid cyfeiriad cyn i ni benderfynu ar eich sylwadau.  Does dim modd ateb sylwadau dros y ffôn neu mewn ymweliad. Rhaid eu gwneud ar-lein neu'n ysgrifenedig.  

Rhaid i’ch sylwadau fod yn wir hyd eithaf eich gwybodaeth. Mae’n drosedd gwneud sylwadau anwir a gallwch chi gael eich erlyn os gwnewch chi hynny.


Caiff unrhyw wybodaeth a ddarperir ei phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod neu’r cyrff perthnasol eraill yn defnyddio unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych at ddibenion gorfodi, canfod twyll neu at unrhyw ddibenion perthynol fel y caniateir gan y gyfraith.

Rwyf wedi derbyn HTC ac am apelio ond nid wyf am i’r gosb gynyddu, a ddylwn i dalu ac wedyn apelio? 

 
Na ddylech. Ystyrir bod talu yn gyfaddefiad o atebolrwydd. 

Yr eiliad y byddwn yn derbyn eich apêl, caiff yr achos ei oedi hyd nes ceir penderfyniad.

Ni fydd y gosb yn cynyddu wrth i’ch her gael ei hystyried. 

Os bydd y Cyngor yn gwrthod eich apêl mae gennych hawl i gael y mater wedi'i ystyried gan feirniad annibynnol o'r Tribiwnlys Cosbau Traffig.

Bydd yr Hysbysiad Gwrthod yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i apelio i’r Tribiwnlys a chod apelio unigryw. Os byddwch chi am apelio i’r tribiwnlys, ni fydd hawl gennych i dalu'r swm cosb gostyngol o £35 mwyach. 

Mae dyfarnwr y Tribiwnlys  yn hollol annibynnol ar y Cyngor ac mae ei benderfyniad yn derfynol. 

Ewch i wefan y Tribiwnlys Cosbau Traffig​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​ i gael rhagor o wybodaeth. 

Yn wahanol i ddirwy goryrru, y person neu'r cwmni a enwir ar yr HTC sy'n llwyr gyfrifol amdano.

Mae hyn oherwydd bod y gyfraith yn gwneud y perchennog yn atebol am y tâl oni bai bod y cerbyd wedi'i hurio.


Am y rheswm hwn, ni ddylech apelio ar y sail nad oeddech yn gyrru na rhoi enw'r gyrrwr i'r Cyngor gan na fydd hyn yn newid unrhyw beth, a byddwch yn parhau’n atebol.



​​
© 2022 Cyngor Caerdydd