Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beth i'w wneud os na allwch ddod o hyd i'ch dirwy neu god gwe

​​​​Bydd angen y rhif Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) arnoch er mwyn talu eich dirwy. Mae'r cyfeirnod HTC yn dechrau gyda QC.

Yn dibynnu ar gam eich dirwy, efallai y bydd angen cod gwe arnoch i apelio. Gallwch ddysgu mwy am y broses apelio dirwy parcio a dirwy traffig sy’n symud​


Os ydych wedi derbyn dirwy parcio, mae'r cod gwe i'w weld ar gefn tudalen gyntaf yr Hysbysiad i Berchennog. 

Os ydych wedi derbyn dirwy traffig sy’n symud, mae'r cod gwe i'w weld ar gefn tudalen gyntaf yr HTC. 

Mae'r cod gwe yn 8 digid o hyd ac yn gyfres o rifau a llythrennau. Er enghraifft, 111XX111. 


Os na allwch ddod o hyd i'ch cod HTC neu'ch cod gwe, cysylltwch â ni. 

​​​

Cysylltwch â ni am god HTC neu ar y we dim ond os mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd.


© 2022 Cyngor Caerdydd