Nod ein Menter Swyddog Iau Diogelwch ar y Ffyrdd yw tanlinellu i rieni a gwarchodwyr y peryglon sydd ynghlwm â pharcio a thagfeydd traffig ger mynedfeydd ysgolion.
Mae nifer o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd yn cymryd rhan yn y fenter ac i addysgu cymuned yr ysgol ar ddiogelwch ar y ffyrdd.
Mae swydd bwysig gan Swyddogion Iau Diogelwch ar y Ffyrdd (SIDayFf) mewn ysgolion cynradd wrth iddynt helpu i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo materion diogelwch ar y ffyrdd i bawb yn yr ysgol a’r gymuned ehangach.
Mae’r tasgau y bydd y SIDayFf yn cyfranogi ynddynt yn cynnwys:
- Cynnal cynulliadau diogelwch ar y ffyrdd a sgyrsiau dosbarth i addysgu’r ysgol ar bynciau diogelwch ar y ffyrdd.
- Cynnal hysbysfwrdd SIDayFf i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.
- Cynnal cystadlaethau yn yr ysgol i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.
- Cymryd rhan yn y gwaith o drefnu gweithgareddau teithio llesol a diogel.
- Helpu i wireddu cynllun teithio’r ysgol.
- Gweithio gyda thîm parcio’r cyngor i addysgu rhieni a gofalwyr ynghylch parcio diogel y tu allan i’w hysgol.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu os am gymryd rhan yn y fenter SIDayFf yna Cysylltu â ni neu ffoniwch 029 2078 8521.
Cysylltu â ni