Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Kerbcraft

​Mae Kerbcraft yn dysgu plant ym mlwyddyn 2 i fod yn gerddwyr diogel drwy eu cymryd ar ffyrdd a dangos iddynt sut mae gwneud y penderfyniadau cywir i aros yn ddiogel. Mae hefyd yn cyfrannu at agwedd diogelwch y Cynllun Ysgolion Iach am y gall chwarae rôl allweddol yn hyrwyddo iechyd a diogelwch ar gyfer plant.

Caiff plant eu cymryd allan o’r ysgol mewn grwpiau bychain gan wirfoddolwyr a hyfforddwyd a Swyddogion Cymorth Kerbcraft Cyngor Caerdydd:

  1. Dewis Mannau a Llwybrau Diogel er mwyn Croesi’r Ffordd
    Caiff plant eu cynorthwyo i adnabod peryglon a nodi mannau croesi amgen.
  2. Croesi’n Ddiogel ger Ceir wedi Parcio
    Dysgir plant sut mae defnyddio strategaeth ddiogel i groesi ger ceir sydd wedi parcio – os yw eu hosgoi yn amhosibl.
  3. Croesi’n Ddiogel Ger Cyffyrdd
    Cyflwynir plant i broblemau cyffyrdd syml a chymhleth, a dysgir strategaeth iddynt er mwyn edrych yn systematig i bob cyfeiriad.


Caiff pob sgil ei hymarfer mewn sawl lleoliad gwahanol yn ystod yr hyfforddi, mewn cydgysylltiad â’r ysgol a’i hamserlen. Bydd pob grŵp yn cael eu cymryd allan am 20-30 munud i bob sesiwn.  


Mae Kerbcraft yn strategaeth genedlaethol ar gyfer diogelwch cerddwyr ifanc wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.


Os ydych yn rhiant, athro neu lywodraethwr ysgol ac am ddarganfod mwy am ddysgu Kerbcraft yn eich ysgol, cysylltwch â Thîm Hyfforddi a Diogelwch ar y Ffyrdd neu ffoniwch  029 2078 8521.

Cysylltu â ni


© 2022 Cyngor Caerdydd