Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hyfforddiant Beicio Oedolion

​​​Mae ein hyfforddwyr yn gymwys i addysgu tair lefel yr Hyfforddiant Beicio Cenedlaethol Safonol.

Dechreuwyr (lefel 1)

Mae hyn yn cynnwys:

  • gwirio eich beic a’ch dillad
  • sicrhau bod eich helmed yn ffitio
  • esgyn a dod oddi ar eich beic
  • cychwyn ac aros yn ddiogel
  • rheoli eich beic a rheoli’r beic wrth arwyddo, ac edrych yn ôl 


    Caiff yr hyfforddiant ei wneud mewn amgylchedd sydd yn rhydd o draffig


    Canolradd (lefel 2)

    Disgwylir i’r hyfforddeion ddod i gasgliadau a gwneud penderfyniadau ar gyffyrdd ac ar ffyrdd sydd â thraffig wrth droi i’r dde ac i’r chwith.

    Profiadol (lefel 3)


    Disgwylir i hyfforddeion fynd i’r afael â pheryglon a gwneud penderfyniadau ar ffyrdd pwysig a sefyllfaoedd cymhleth yn ymwneud â chylchfannau a goleuadau traffig mewn traffig trwm. 


    Cyflwynir y lefelau hyn fel arweiniad.


    Ar ddechrau’r sesiwn, bydd ein hyfforddwyr yn asesu lefel eich cymhwysedd ac yn sgwrsio â chi ynghylch yr hyn yr hoffech ei gael allan o’r hyfforddiant. Gallan nhw wedyn ei deilwra ar gyfer eich anghenion penodol.


    Costau


    Mae ein sesiynau hyfforddi yn hollol rhad ac am ddim​ i unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghaerdydd.​


    Yr hyn ddylech ddod gyda chi

    • Eich beic. Rhowch wybod i ni os nad ydych chi’n berchen ar feic​
    • Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo helmed a dillad llachar

    Cadw lle ar hyfforddiant beicio


    I archebu hyfforddiant beicio, llenwch y ffurflen cysylltu â ni.​​​

    Cysylltu â ni


    Canslo ac Aildrefnu

    Os oes rhaid i chi ganslo neu aildrefnu sesiwn, rhowch 24 awr o rybudd i’n hyfforddwyr. Yn anffodus os byddwch yn methu â gwneud hynny ni fyddwn yn gallu cynnig hyfforddiant i chi yn y dyfodol.​


    © 2022 Cyngor Caerdydd