Gallwch gasglu map beicio mewn sawl lleoliad ledled y ddinas, gan gynnwys llyfrgelloedd a chanolfannau dysgu cymunedol.
Nextbike
Mae Caerdydd yn cynnal un o weithredwyr rhannu beiciau helaethaf y byd – Nextbike.
Mae Nextbike yn system rhannu beiciau drwy danysgrifiad sydd â 50 gorsaf ledled Caerdydd â 500 o feiciau i’w rhentu ar unrhyw adeg o’r dydd.
Sut mae’n gweithio?
Gallwch gofrestru cyfrif drwy lawrlwytho’r app i ffôn clyfar, mynd i’r wefan neu alw’r llinell gymorth.
I ddatgloi Nextbike gallwch naill ai sganio’r cod QR neu nodi rhif y beic yn yr app, neu drwy’r llinell gymorth.
Mae beicio’n lleihau traffig, yn rhyddhau mannau parcio ac yn fodd iachach o deithio’r ddinas.
Beicffyrdd
Mae Cyngor Caerdydd yn datblygu cynigion ar gyfer pum Beicffyrdd i gynorthwyo a hyrwyddo beicio ar gyfer pobl o bob oedran a gallu.
Bydd y llwybrau a gynigir yn cysylltu cymunedau â phrif gyrchfannau trwy’r ddinas, yn cynnwys canol y ddinas a’r Bae.