Newidiodd y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd adeiledig ar 17 Medi 2023.
Dyma newid cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru y mae’n rhaid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gydymffurfio ag ef.
Mae'r newid yn y ddeddfwriaeth yn golygu bod pob ffordd bellach yn 20mya yn ddiofyn. Mae hyn yn golygu na chewch deithio’n gyflymach na 20mya yn ôl y gyfraith. Mae gan rai ffyrdd derfyn cyflymder o 30mya o hyd ac mae arwyddion yn dynodi hyn yn yr un modd â ffyrdd â therfynau cyflymder uwch.
Mae unrhyw arwyddion yn nodi terfyn cyflymder o 20mya yn cael eu tynnu ac ni fydd unrhyw arwyddion i’ch atgoffa am y terfyn cyflymder - yn yr un modd â mewn ardaloedd terfyn cyflymder 30mya yn flaenorol.
Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwch yn gweld arwyddion 30mya yn cael eu gosod yn y mannau priodol.
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd yn gweithio'n agos gyda GanBwyll, y sefydliad sy'n gyfrifol am orfodi cyflymderau yng Nghymru i sicrhau bod gyrwyr yn ymwybodol o'r terfyn diofyn newydd.
Mae’r prosiect i newid arwyddion yn un sylweddol ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd tra bod hyn yn digwydd. Bydd cyfnod o 'snagio' tra bod arwyddion yn cael eu gwirio.
Adborth gan breswylwyr
Rydym yn monitro’r gwaith o gyflwyno'r terfyn cyflymder 20mya ac yn gofyn am eich adborth. Mae hyn yn cynnwys unrhyw geisiadau am newidiadau i'r cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd penodol.
Byddwn yn casglu ac yn adolygu adborth am o leiaf 1 flwyddyn yn dilyn y newid mewn terfyn cyflymder. Rydym hefyd yn disgwyl diweddariad gan Lywodraeth Cymru yn nes ymlaen yn 2024 ar osod terfynau cyflymder.
Cysylltu â ni