Gallwch fenthyg e-lyfrau ac e-lyfrau sain, papurau newydd a chylchgronau gan:
- BorrowBox
- Libby, gan OverDrive
- Press Reader
Sylwer: gallwch ddefnyddio'r gwasanaethau hyn ar y mwyafrif o ddyfeisiau, ond nid yw Amazon Kindle yn gydwedd.
I bori, benthyg a chadw llyfrau bydd angen eich rhif cerdyn llyfrgell a'ch PIN. Os ydych chi wedi anghofio’ch PIN,
cysylltwch â ni. A wnewch chi gynnwys rhif eich cerdyn llyfrgell yn eich neges.
BorrowBox
Mae BorrowBox yn ei gwneud hi'n hawdd pori, benthyg a darllen e-lyfrau ac e-lyfrau sain y llyfrgell.
Gallwch gadw neu lawrlwytho hyd at 10 e-lyfr ac e-lyfr sain am ddim drwy BorrowBox. Gallwch fenthyg llyfrau am hyd at 21 diwrnod.
Os ydych yn defnyddio ffôn clyfar neu dabled, gallwch:
Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu liniadur gallwch fynd i Wefan BorrowBox i lawrlwytho e-lyfrau ac e-lyfrau sain i'ch dyfais. I ddarllen e-lyfrau bydd angen Adobe Digital Editions. Gellir mewngludo e-lyfrau sain i iTunes neu Windows Media Player a'u trosglwyddo i chwaraewr MP3 neu eReader.
Libby, gan OverDrive
Mae Libby, gan OverDrive, yn app am ddim sy'n eich galluogi i fenthyg e-lyfrau, e-lyfrau sain a chylchgronau o'r llyfrgell.
Gallwch gadw neu lawrlwytho hyd at 16 e-lyfr, e-lyfr sain a chylchgrawn am ddim drwy Libby. Gallwch fenthyg llyfrau am hyd at 21 diwrnod.
Os ydych yn defnyddio ffôn clyfar neu dabled, gallwch:
Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu liniadur gallwch fynd i
Wefan OverDrive.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd Gallwch ddarllen cylchgronau ac e-lyfrau yn eich porwr. Gallwch hefyd lawrlwytho e-lyfrau ar ffurf EPUB gan ddefnyddio Adobe Digital Editions. Gallwch wrando ar e-lyfrau sain yn eich porwr, neu gallwch eu lawrlwytho fel ffeil MP3.
PressReader
Gallwch gael gafael ar bapurau newydd a chylchgronau digidol drwy PressReader.
Os ydych yn defnyddio ffôn clyfar neu dabled, gallwch:
Gallwch hefyd gael gafael ar bapurau newydd PressReader drwy ddefnyddio'r tab 'extras' ar app Libby, gan OverDrive. Nid yw cylchgronau PressReader ar gael drwy app Libby.
Cewch fynediad at adnoddau
cyfeirio ar-leinDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd eraill fel aelod o Lyfrgelloedd Caerdydd drwy
gatalog y llyfrgellDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Mae’r adnoddau e-Gyfeirio yn cynnwys yn cynnwys:
-
IELTS
- Encyclopaedia Britanica
- Papurau newydd hanesyddol trwy Gale Primary Resources a’r British Newspaper Archive
- The Times Digital Newspaper Archive
- Ancestry.com – Rhifyn y Llyfrgell (ar gael dros dro o'ch cartref)
Os ydych chi'n defnyddio'r rhain o gartref neu drwy ddefnyddio eich cyfrifiadur eich hun, efallai y bydd angen i chi fewngofnodi drwy'r catalog gan ddefnyddio rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN.
Os ydych yn defnyddio’r rhain o Lyfrgell Gyhoeddus Caerdydd, cewch fynediad uniongyrchol at yr holl wasanaethau hyn.
Dim ond o un o gyfrifiaduron y Llyfrgell y gellir defnyddio’r adnoddau canlynol: