Gallwch nawr ymuno ar-lein â'r Llyfrgell.
Cliciwch Ymuno â'r LlyfrgellDolen yn agor mewn ffenestr newydd Dolen yn agor mewn ffenestr newydd, sy'n ymddangos fel opsiwn ar ein catalogDolen yn agor mewn ffenestr newydd Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Bydd modd trefnu cerdyn llyfrgell ffisegol maes o law.
Gallwch ymuno â’n llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim. Gallwch fenthyg llyfrau a defnyddio’r cyfrifiaduron am ddim, ond rydyn ni’n codi tâl am wasanaethau eraill fel menthyg CDs a DVDs. Gallwch fenthyg hyd at 15 o eitemau ar y tro o unrhyw leoliad.
I ymuno, ewch i un o’n llyfrgelloedd a dangos prawf adnabod. Er enghraifft:
- Trwydded yrru
- Cerdyn debyd neu gredyd
- Biliau cyfleustodau
- Cerdyn neu lyfr budd-daliadau
- Cyfriflen banc neu gerdyn credyd
- Pasbort
- Cerdyn UCM neu gerdyn myfyriwr, gan gynnwys Cerdyn Adnabod Myfyriwr Rhyngwladol (ISIC) neu Gerdyn Teithio Ieuenctid Rhyngwladol (IYTC)
Os ydych eisoes yn aelod o wasanaeth llyfrgell arall yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, gallwch ymuno â Llyfrgelloedd Caerdydd drwy gyflwyno eich cerdyn llyfrgell dilys presennol.
Dan 16
Babanod
Adnewyddu
Dychwelyd eitemau’n hwyr
Help gyda chyfrifiaduron
Dan 16
Os ydych o dan 16 oed bydd angen i’ch rhiant/gofalwr ddangos un prawf adnabod a llofnodi’r cais.
Uchod
Babanod
Gall babanod ymuno cyn gynted ag y cânt eu geni! Darganfyddwch fwy am gynllun Dechrau Da a Baby Bookcrawl mewn unrhyw lyfrgell. Mae babanod yn dwlu ar lyfrau, ac mae mwy a mwy yn cymryd rhan yn Amser Odli. Gofynnwch i’ch llyfrgell leol am ddyddiad y sesiwn nesaf.
Uchod
Adnewyddu
Os nad ydych wedi gorffen gyda’r eitem, gallech ei hadnewyddu os nad oes unrhyw un arall wedi’i chadw. Gallwch adnewyddu’r llyfr:
- ar-lein
- drwy ymweld â’r llyfrgell, neu
- drwy ffonio’r llyfrgell
Peidiwch ag anghofio y bydd angen eich cerdyn llyfrgell a’ch PIN arnoch os ydych am adnewyddu ar-lein. Os ydych wedi anghofio eich PIN, cysylltwch â ni
Uchod
Dychwelyd eitemau’n hwyr
Os byddwch yn anghofio dod â’ch eitem yn ôl ar amser, bydd yn rhaid i chi dalu dirwy fechan. Edrychwch ar y dudalen dirwyon a chostau llyfrgelloedd i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Does dim dirwyon ar lyfrau i blant, ond ceisiwch eu dychwelyd mor agos i'r dyddiad dychwelyd â phosibl.
Uchod
Help gyda chyfrifiaduron
Os nad ydych yn hyderus gyda chyfrifiaduron, gofynnwch i aelod o staff eich helpu i ddechrau arni. Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau dydd a nos i’ch helpu i wella eich sgiliau cyfrifiadurol. Holwch eich llyfrgell leol am fanylion.
Uchod