Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Deddf Lles Anifeiliaid 2006

​Mae Deddf Lles Anifeiliaid yn gwneud perchnogion a cheidwaid yn gyfrifol am sicrhau bod anghenion lles eu hanifeiliaid yn cael eu diwallu. Mae hefyd yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflawni gweithred, neu fethu â gweithredu, gan achosi dioddefaint diangen i anifail a warchodir.

 

Mae anghenion lles anifeiliaid yn cynnwys:

 

  • darparu amgylchedd addas (rhywle i fyw)
  • darparu diet addas
  • patrymau ymddygiad normal
  • byw gydag anifeiliaid eraill neu ar wahân iddynt (os yn berthnasol)
  • cael eu hamddiffyn rhag poen, anaf, dioddefaint a chlefyd

 

Mae’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i berson fod yn 16 oed cyn prynu anifail. Mae’r gyfraith hefyd yn gwahardd cynnig anifeiliaid fel gwobrau i blant dan 16 oed.

 

Gall unrhyw un sy’n greulon wrth anifail neu sy'n methu â diwallu ei anghenion lles gael ei wahardd rhag cadw anifeiliaid, gael dirwy o hyd at £20,000 a/neu gael ei anfon i'r carchar.

 

Mae’r Ddeddf Lles Anifeiliaid yn cryfhau cosbau i unrhyw un sy’n cael ei ganfod yn euog o drosedd lles anifeiliaid, yn ogystal â rhoi’r pŵer i asiantaethau gorfodi’r gyfraith gymryd camau i sicrhau nad yw anifeiliaid yn dioddef.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

Os ydych yn poeni am les anifail a warchodir, cysylltwch â’r RSPCA.

 

 

Cysylltu â ni

© 2022 Cyngor Caerdydd