Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn chwarae rhan bwysig o ran rhoi llais i bobl hŷn.
Mae’r Ymgyrch Na i Oedraniaeth yn ceisio newid y ffordd mae cymdeithas yn gweld pobl hŷn ac yn amlygu eu cyfraniad i gymunedau.
Dysgwch fwy ar wefan Comisiynydd Pobl Hŷn CymruDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Fforymau 50+ Caerdydd
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi datblygiadau newydd a chyffrous i bobl hŷn yng Nghaerdydd.
Fel Cyngor rydyn ni’n gwerthfawrogi’r profiadau, y sgiliau a’r wybodaeth y gall pobl hŷn eu cyfrannu at ein gwaith. Rydyn ni am sefydlu Fforymau 50+ yn 6 ardal rheoli cymdogaethau Caerdydd.
I gael rhagor o wybodaeth am 50+ cysylltwch â’n tîm canolbwyntio ar ddinasyddion