Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Diogelu

Diogelu yw amddiffyn plant ac oedolion rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Mae hefyd yn golygu sicrhau bod plant ac oedolion yn mwynhau iechyd da, yn datblygu’n dda ac yn chwarae rôl lawn a gweithredol yn eu cymunedau. 

Pwy sy’n gyfrifol am ddiogelu?


Rydym oll yn gyfrifol dros sicrhau bod plant ac oedolion sydd mewn perygl yn aros yn ddiogel.  
Golyga hyn y dylem ni i gyd sicrhau ein bod yn gwybod beth yw diogelu a phryd mae angen i ni wneud rhywbeth i atal cam-drin rhag digwydd. 

Sut rydym yn diogelu?


Er mwyn diogelu, rhaid i ni:

  • Adnabod y gwahanol fathau o gam-drin;
  • Adnabod yr arwyddion, symptomau ac ymddygiad a allai fod yn arwydd bod plentyn neu oedolyn yn cael ei gam-drin neu ei fod mewn risg o niwed;
  • Deall beth dylem ei wneud os ydym yn pryderu bod plentyn neu oedolyn mewn risg;
  • Deall ein cyfrifoldeb o ran amheuaeth neu ddatgelu cam-drin;
  • Deall ein dyletswydd i adrodd am bryder neu ddigwyddiad pan ddown i wybod amdano. 

Pa ffurf sydd i gam-drin?


Mae cam-drin ac esgeuluso yn ffurfiau o drin plentyn neu oedolyn yn anghywir. Gellir disgrifio’r rhain mewn pum categori:  

Cam drin corfforol


  • ​Gall hyn gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi, sgaldio, boddi neu fygu neu achosi niwed corfforol i blentyn neu oedolyn.

Cam-drin rhywiol

Gorfodi neu ddenu plentyn neu oedolyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, a hwnnw’n ymwybodol ai peidio o’r hyn sy’n digwydd. Gall hyn gynnwys: 

  • cyswllt corfforol, gan gynnwys treiddio neu ddim;
  • dim cyswllt corfforol, megis cynnwys plentyn neu oedolyn yn edrych ar neu yn rhan o gynhyrchu deunydd pornograffig neu wylio gweithgareddau rhywiol; neu
  • annog oedolion neu blant i ymddwyn yn rhywiol mewn ffyrdd sy’n rhywiol amhriodol.

Esgeuluso


  • ​Esgeuluso yw peidio ag ateb anghenion sylfaenol corfforol a/neu seicolegol plentyn neu oedolyn, sy’n debygol o arwain at niweidio ei iechyd neu ei ddatblygiad yn ddifrifol.
  • Gall hyn gynnwys rhiant, aelod y teulu neu ofalwr yn peidio â rhoi digon o fwyd, dillad na lloches ddigonol, peidio â diogelu plentyn neu oedolyn rhag niwed corfforol neu berygl neu beidio â sicrhau y caiff ofal neu driniaeth ddiogel.
  • Gall hefyd gynnwys esgeuluso neu beidio ag ymateb i anghenion emosiynol plentyn neu oedolyn.

Cam-drin emosiynol


  • Trin plentyn neu oedolyn yn wael yn emosiynol, nes achosi effaith negyddol ddifrifol a pharhaus ar ei ddatblygiad emosiynol ac ymddygiadol.
  • Gall hyn gynnwys dweud wrth y plentyn neu’r oedolyn ei fod yn ddiwerth neu nad oes unrhyw un yn ei garu, ei fod yn annigonol neu na chaiff ei werthfawrogi onid yw’n ateb anghenion rhywun arall.
  • Gall gynnwys codi ofn ar blant neu oedolion neu wneud iddynt deimlo mewn perygl, er enghraifft drwy fod yn dyst i gam-drin domestig yn y cartref neu gael eu bwlio, neu drwy ecsploetiaeth neu lygredigaeth.

Cam-drin ariannol


  • Dwyn arian neu eiddo;
  • Twyllo ariannol e.e. cynllwynion ariannol
  • Cael ei roi dan bwysau i dalu am bethau er budd rhywun arall 
  • Defnyddio arian rhywun arall fel arian ei hun.
  • Plant yn ennill arian trwy ddigwyddiadau adloniant a’r arian hwnnw ddim yn mynd i ymddiriedolaeth. 
 
Mae ffurfiau eraill ar gam-drin, megis bwlio, priodas orfodol, Anffurfio Organau Rhywiol Merched, caethwasiaeth fodern, camfanteisio rhywiol a radicaleiddio.  

Beth dylech ei wneud os ydych yn meddwl bod rhywun yn cael ei gam-drin neu mewn risg o gael ei gam-drin


Os ydych yn credu bod plentyn neu oedolyn yn cael ei gam-drin, mae’n rhaid i chi ddweud wrth rywun. 

Os ydych yn credu bod plentyn neu oedolyn mewn perygl uniongyrchol, ymatebwch yn syth – ffoniwch 999 a dweud wrth y gweithredwr ffôn beth sy’n digwydd.

Oedolion


Os ydych yn meddwl neu’n credu bod oedolyn yn cael ei gam-drin, cysylltwch â’r tîm diogelu Oedolion ar:

029 2233 0888

Plant


Os ydych yn credu bod plentyn mewn perygl, nad yw’n cael gofal cywir neu os oes gennych bryderon ynghylch ei les, cysylltwch â ni ar: 

029 2053 6490 

Y tu allan i oriau swyddfa


Os oes gennych bryderon y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch y Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng ar 029 2078 8570​
​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd