Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Llety â Chymorth

​​​​​Mae Llety â Chymorth yn gynllun lle mae oedolion cymwys yn rhoi cymorth i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed sy'n gadael gofal maeth neu sy'n wynebu digartrefedd.

Mae ein Gwesteiwyr Llety â Chymorth yn cynnig eu hystafell sbâr i helpu i bontio'r bwlch ar gyfer pobl ifanc sydd angen cymorth ac arweiniad cyn y gallant fyw'n annibynnol.
Mae'r cymorth a roddir yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys:

  • Cymorth cyllidebu
  • Rheoli Golchi Dillad 
  • Sgiliau Coginio 
  • Gwneud ceisiadau am swyddi a llenwi ffurflenni 
  • Datblygu arferion cadarnhaol 
  • Cymorth emosiynol​
 

Dod yn westai llety â chymorth 

Gall unrhyw un dros 21 oed sydd ag ystafell sbâr a diddordeb mewn cefnogi person ifanc wneud cais i fod yn Letywr Llety â Chymorth.

Gall Llety â Chymorth fod yn fwy hyblyg na maethu, felly nid yw gweithio'n rhan amser neu'n llawn amser yn rhwystr i fod yn lletywr.
 
Gall dod yn lletywr fod yn fenter hynod werthfawr ac mae wir yn gwneud gwahaniaeth i'r bobl ifanc rydych yn eu cefnogi.

Rydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir, diwylliant, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, a statws priodasol. Y prif feini prawf yw y gallwch gynnig amgylchedd diogel ac yn barod i gefnogi person ifanc.​

Tâl a chefnogaeth i westeion 

Fel Gwesteiwr Llety â Chymorth, byddwch yn derbyn £189 yr wythnos pan fydd person ifanc yn aros gyda chi.  

Byddwch yn derbyn hyfforddiant cychwynnol i fod yn Westeiwr Llety â Chymorth a bydd hyfforddiant yn parhau drwy gydol eich amser fel lletywr.

Unwaith y bydd gennych berson ifanc wedi'i leoli gyda chi, bydd y Tîm Llety â Chymorth yn rhoi cymorth rheolaidd i chi.

Cysylltwch â'r tîm Llety â Chymorth os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi person ifanc.​


​​



Ffôn​: 029 2087 3797
E-bost: supportedlodgings@cardiff.gov.uk

Fel arall, os hoffech ddod o hyd i ragor o wybodaeth am faethu, ewch i 
wefan Maethu Cymru.​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd


© 2022 Cyngor Caerdydd