Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Teulu a ffrindiau sy’n gofalu

​​​​​​Gelwir teulu a ffrindiau sy’n gofalu yn ofalwyr ‘Perthynas’ weithiau.

 

Pan fydd yn rhaid i blant gael gofal i ffwrdd o’r cartref, teulu maeth fydd dewis cyntaf y Gwasanaethau Plant fel arfer, a bydd rhieni’r plentyn fel arfer yn cytuno ar hyn. Yn ddelfrydol bydd y lleoliad yn eithaf agos i’r cartref, a bydd y rhan fwyaf o blant yn dychwelyd adref ar ôl ychydig ddiwrnodau, wythnosau neu fisoedd.

 

Ni fydd yn bosibl i rai plant ddychwelyd at eu rhieni. Bydd angen cartref mwy parhaol arnynt felly byddwn yn gweithio gyda’r teulu i geisio dod o hyd i rywun y mae’r plentyn eisoes yn ei nabod; a all gynnwys:

 

  • mam-gu a thad-cu
  • brawd neu chwaer hŷn
  • ewythr a modryb
  • ffrindiau’r teulu

 

ond gall gynnwys unrhyw un sy’n perthyn i’r plentyn neu’n nabod y plentyn yn barod.

 

Mae plant yn cael budd o fyw mewn teulu sefydlog a pherthynas sy’n gyfreithiol sefydlog gyda'u gofalwyr, a phan fyddwn yn edrych am berthynas neu ffrind (gofalwr Perthynas) i ofalu am blentyn, caiff yr opsiynau canlynol eu hystyried fel arfer:

 

Mae mabwysiadu’n para am oes ac unwaith i Orchymyn Mabwysiadu gael ei wneud ni ellir ei ddiddymu; bydd rhieni'n colli eu holl gyfrifoldebau rhianta drwy fabwysiadu. Mabwysiadu yw’r opsiwn cyntaf i’w ystyried, ond nid yw bob amser yn bosibl.
Gyda Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig nid yw’r cyngor yn gyfrifol am y plentyn mwyach. Rhieni biolegol y plentyn sydd â’r cyfrifoldeb rhianta os mae eu cyfrifoldeb nhw ydoedd yn flaenorol. Yn ymarferol, y gwarcheidwad arbennig sy’n gyfrifol am yr holl benderfyniadau o ddydd i ddydd. Rhaid iddynt gysylltu â’r rhieni biolegol (neu wneud cais i’r llys) ar gyfer y penderfyniadau canlynol:
  • newid cyfenw plentyn
  • byw dramor am fwy na 3 mis
  • caniatâd i fabwysiadu
  •  

    Mae’r gorchmynion hyn yn para tan fod y plentyn yn 18 oed a gallant gael eu diwygio neu eu gollwng – ond mae’n rhaid i riant biolegol ddangos i’r Llys y bu newid sylweddol yn ei amgylchiadau i wneud cais am newid i’r gorchymyn.


    Mae Gorchmynion Preswyliad yn pennu lle bydd y plentyn yn byw a gyda phwy. Maen nhw’n rhoi rhan o'r cyfrifoldeb rhianta dros y plentyn i’r gofalwr neu’r gofalwyr, os nad ydyw/ydynt eisoes yn gyfrifol. Nid yw’r rhieni biolegol yn colli cyfrifoldeb rhianta ond dim ond hyn a hyn o benderfyniadau y gallant gyfrannu atynt.

     

    Mae’r gorchymyn fel arfer yn para tan fod y plentyn yn 18 oed.


    Gyda Gofal Maeth Perthynas mae’r cyngor yn parhau i gynnig gofal a bod yn gyfrifol am y plentyn, ond mae rhieni biolegol y plentyn yn cadw cyfrifoldeb rhianta os mae eu cyfrifoldeb nhw ydoedd yn flaenorol. Caiff Gofalwyr Maeth Perthynas eu hasesu yn yr un ffordd â Gofalwyr Maeth eraill. Yr unig wahaniaeth yw eu bod yn cael eu hasesu i weld a ellir eu cymeradwyo i ofalu am y plentyn (neu blant) penodol y maen nhw'n ei nabod.

     

    Mae’r hyn y mae'r Gwasanaeth Maethu yn ei ddisgwyl gan Ofalwyr Maeth Perthynas yr un peth â phob Gofalwr Maeth cymeradwy arall. Mae Gofalwyr Maeth Perthynas yn cael yr un cymorth, budd-daliadau a hyfforddiant â mathau eraill o Ofalwyr Maeth cymeradwy.


     

    Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu ar ran Caerdydd cysylltwch â'n tîm maethu.


    Cysylltu â ni


     

    029 20873797
    © 2022 Cyngor Caerdydd