Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Mathau o ofal maeth

Mae angen i rai plant gael eu maethu am gyfnod byr. Bydd angen i blant eraill gael cartref am gyfnod hirach a bydd angen cartref maeth parhaol ar rai.

 

Mae rhai o'n gofalwyr maeth yn arbenigo mewn maes penodol ac mae eraill yn hoffi cymryd plant â gwahanol anghenion. Yr asesiad fydd yn penderfynu pa fath o ofal maeth sy'n briodol i chi, eich teulu a'ch ffordd o fyw.

 

Mae'r gwahanol fathau o Ofal Maeth sydd ar gael yng Nghaerdydd fel a ganlyn:

 

  • Gofal Seibiant - cynnig arhosiad byr (ychydig ddiwrnodau neu wythnosau) i roi seibiant i deulu’r plentyn neu deulu maeth arall - gallai hyn fod yn arhosiad a gynlluniwyd neu oherwydd amgylchiadau annisgwyl.
  • Byrdymor – cynnig lleoedd am ychydig wythnosau neu fisoedd (hyd at ddwy flynedd) nes y caiff anawsterau yn y cartref eu datrys neu fod modd gwneud trefniadau eraill ar gyfer dyfodol y plentyn.
  • Hirdymor – rhoi cartref parhaol i blant, plant hŷn fel arfer, nad ydynt yn gallu dychwelyd at eu teuluoedd biolegol.  Fodd bynnag, efallai y byddant yn cadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd biolegol. 

 

Mathau eraill o gynlluniau Gofal Maeth arbenigol yng Nghaerdydd:

 

  • Cynllun Arddegau - gofalu am bobl ifanc 12 - 16 oed yn y byrdymor.  
  • Cynllun Cymorth Gofal – mae’r math hwn o ofal maeth yn para am gyfnod penodol ac yn ffurf ar gymorth a gynigir i deuluoedd plant a allai o bosibl gael eu dwyn dan ofal parhaol yr awdurdod lleol pe na baent yn cael cymorth o’r fath. Gall lleoliadau fod am benwythnos, mis, un noson bob pythefnos neu sesiwn ar ôl ysgol. Mae hyd lleoliad yn dibynnu ar yr achos unigol, ond fel arfer mae dros gyfnod o 6-9 mis.
  • Cynllun Gofal Remánd – mae’r math hwn o ofal maeth yn cynnig lleoliadau i bobl ifanc sydd wedi’u remandio i ofal yr Awdurdod Lleol gan y Llysoedd Troseddol, fel arfer y Llys Ieuenctid, neu Lys y Goron o bryd i’w gilydd. Mae lleoliadau fel arfer yn rhai byrdymor tan fod achos Llys wedi dod i ben a bod y person ifanc wedi’i ddedfrydu.

 

Cysylltu â ni  


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu ar ran Caerdydd cysylltwch â'n tîm maethu.


029 20873797
© 2022 Cyngor Caerdydd