Rydym yn recriwtio Gofalwyr Maeth ledled Caerdydd sy’n gallu rhoi cartref llesol a diogel y gall plant ddysgu, datblygu a thyfu ynddo. Mae angen Gofalwyr Maeth ymroddedig ar blant yng Nghaerdydd sy’n gallu rhoi cartrefi i amrywiaeth o blant o gefndiroedd gwahanol sydd ag anghenion gwahanol. Hoffem glywed gennych yn benodol os rydych chi’n teimlo y gallwch faethu brodyr a chwiorydd, pobl ifanc yn eu harddegau a phlant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol. Rydym yn cynnig cymorth o safon uchel a phecyn ariannol da.
Os oes gennych ddiddordeb mewn maethu cysylltwch â ni neu dewch i un o'r digwyddiadau y bydd ein tîm yn eu mynychu i gael rhagor o wybodaeth am rôl gofalwr maeth.
Byddwn yn mynychu Ffair Swyddi Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant
ddydd Mercher 9 Medi 2015 rhwng 10am a 2pm.
Rydym yn y broses o drefnu ein digwyddiadau ar gyfer y dyfodol a fydd yn cael eu nodi yma. I gael gwybod am y cyhoeddiadau diweddaraf, dilynwch ni ar TwitterExternal link opens in a new window ar FacebookDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Cysylltwch â ni neu galwch heibio i'n gweld ...
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Faethu, ffoniwch ni ar 029 2087 3797 neu cysylltwch â ni ar-lein er mwyn i ni allu anfon un o’n Pecynnau Gwybodaeth atoch neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Gallwn hefyd drefnu i rywun ddod allan i ymweld â chi os ydych mewn sefyllfa i gael asesiad maeth.
Mae croeso i chi hefyd alw heibio ein swyddfa (rhwng 9am a 4pm) i gasglu pecyn gwybodaeth. Os hoffech ddod i mewn i gwrdd ag un o’n Gweithwyr Cymdeithasol Maeth a Gofalwr Maeth presennol, byddem yn fwy na pharod i drefnu hyn i chi felly cysylltwch â ni i wneud apwyntiad.
Ble i ddod o hyd i ni ...
Mae ein Gwasanaeth Maeth wedi’i leoli yng Nghanolfan Llaneirwg, 112 Heol Maes Eirwg, Llaneirwg, Caerdydd CF3 1QS.
029 20873797