Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cymorth, budd-daliadau a thaliadau

Fel y mae gan bob plentyn sy’n derbyn gofal ei weithiwr cymdeithasol ei hun, mae gan bob gofalwr maeth weithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn ei gefnogi hefyd. Ar ben hynny, gallwch fynychu grwpiau cymorth lle byddwch yn cwrdd ac yn sgwrsio â gofalwyr eraill, rhai yn yr un sefyllfa â chi ac eraill yn fwy profiadol, a rhannu syniadau a phryderon.  Byddwn ni’n gwneud yn siŵr bod gennych yr holl offer sydd ei angen arnoch i ofalu am blentyn. Mae hyn yn cynnwys popeth o offer babanod a chelfi ystafell wely i system TGCh lawn i blant dros 5 oed.


Hefyd, cewch “Gyfaill” Maethu – byddwch yn cael eich cyflwyno i un o'n gofalwyr mwy profiadol a fydd yn barod i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych a rhoi’r cyngor a’r cymorth a fydd ei angen arnoch yn yr ychydig fisoedd cyntaf.

 

 

Budd-daliadau ar gyfer Gofalwyr Maeth

 

Cewch fynediad llawn i gyfleusterau hamdden Caerdydd gyda Cherdyn Actif llawn a fydd yn golygu y cewch chi a’ch teulu fanteisio ar byllau nofio, ystafelloedd iechyd a ffitrwydd, dosbarthiadau ffitrwydd, beicio, chwaraeon a chyfleusterau athletau mewn 12 o leoliadau ledled Caerdydd.

 

Byddwch hefyd yn dod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd lle gallwch gael gafael ar yr holl gymorth, arweiniad a chyngor a gynigir i ofalwyr maeth fel chi ledled y DU.

 

 

Beth fydda i’n ei gael yn ariannol?

 

Mae ein taliadau wythnosol yn cynnwys swm i dalu am y costau o ofalu am blentyn o ddydd i ddydd, swm a delir ar raddfa a argymhellir gan y Llywodraeth.  Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich profiad ac oedran y plentyn neu blant rydych yn gofalu amdanynt. Os ydych yn ofalwr maeth newydd, byddwch yn cychwyn ar yr hyn a elwir yn Fand 1. Mae’r system fandio yn gysylltiedig â'ch sgiliau, gwybodaeth a galluoedd.


 

Ar ôl bod yn ofalwr maeth am 6 i 12 mis, cewch gyfle i symud drwy'r bandiau gofalu eraill. I adlewyrchu’r gwaith a wnewch, cewch daliad wythnosol uwch.

 

 

Bandiau tâl maethu
Oedran y Plentyn

Taliad Wythnosol Band 1

Taliad Wythnosol Band  2

Taliad Wythnosl Band 3

0-4 oed

£149.00

£213.86

£324.83

5-10 oed

£146.05

£210.91

£321.88

11-15 oed

£181.81

£246.67

£357.64

16+

£221.13

£285.99

£396.96

 

 

Lwfansau Ychwanegol

 

Yn ogystal â’ch taliadau wythnosol byddwch yn cael lwfansau ar gyfer gwyliau, pen-blwyddi a gwyliau crefyddol fel y Nadolig. Unwaith eto, mae’r swm o arian y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar oedran y plentyn.

 

 

Byddwn yn rhoi lwfans dillad cychwynnol i chi ar gyfer y plentyn ynghyd â thaliadau ychwanegol pan fyddwch yn gwario arian sylweddol o ganlyniad i faethu, er enghraifft, rhai costau teithio. 

 

Lwfansau sydd ar gael

Oedran

Pen-blwydd

Gŵyl Grefyddol

Gwyliau

0-4 oed

£143.00

£143.00

£286.00

5-10 oed

£146.05

£146.05

£292.10

11-15 oed

£181.81

£181.81

£363.62

16+

£221.13

£221.13

£442.26



Pan nad ydych yn gofalu am blentyn

 

Os nad oes gennych blentyn yn eich gofal, byddwn yn talu tâl cadw i ofalwyr Band 2 a Band 3 am hyd at 6 wythnos. Nodwch:  er nad yw taliadau cadw fel arfer yn cael eu talu i ofalwyr Band 1, bydd angen rhoi’r taliadau hyn iddynt dan rai amgylchiadau.

 

Bandiau cadw gofalwyr
Band

Taliad Wythnosol

Bandiau 1 + 2

£64.86

Band 3

£175.83

 
 

 

Cynllun Arddegau  

 

Gyda’r cynllun arddegau fe gewch:

  • £396.96 y plentyn, yr wythnos
  • tâl cadw o £175.83 yr wythnos, am y 6 wythnos gyntaf wag ar ôl gofalu am blentyn
  • taliadau lwfans gwyliau o hyd at £442.27 y plentyn

 

 

Cynllun Gofal Cymorth

 

Caiff taliadau eu gwneud i ofalwyr y Cynllun Gofal Cymorth yn wythnosol ar sail pro rata, a byddant ar yr un gyfradd â Gofalwyr Maeth Caerdydd sy’n cynnig lleoliadau seibiant, byrdymor a hirdymor.

 

Caiff taliadau eu gwneud fel y bo’n briodol mewn perthynas ag oedran y plentyn a lefel Band y gofalwr maeth, hynny yw, Band 1, 2 neu 3.

 

 

Cynllun Gofal Remánd


Gyda’r Cynllun Gofal Remánd fe gewch:

 

  • £396.96 y plentyn, yr wythnos
  • tâl cadw o £175.83 yr wythnos, am y 6 wythnos gyntaf wag ar ôl gofalu am blentyn
  • pythefnos o wyliau â thâl

 

 

Cysylltu â ni  

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu ar ran Caerdydd cysylltwch â'n tîm maethu.


029 20873797 
© 2022 Cyngor Caerdydd