Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cwestiynau cyffredin

A allaf faethu...

 

Os ydw i’n sengl neu’n rhiant sengl?

 

Gallwch. Gall pob math o bobl fod yn ofalwyr maeth gan gynnwys parau priod a dibriod hoyw a heterorywiol a dynion a merched sengl. Does dim gwahaniaeth p’un a ydych yn rhiant neu beidio, yr hyn sy’n bwysig yw’r sgiliau a’r rhinweddau y gallwch eu cynnig. 


Os ydw i’n ysmygu?

 

Gallwch. Ond ni allwch ofalu am blant dan 5 oed.


Os ydw i wedi ymddeol?

 

Gallwch. Does dim terfyn oedran uchaf swyddogol.  Cyhyd â’ch bod yn gymharol heini ac actif gallwch faethu.

 

 

Os oes gennyf fy mhlant fy hun?

 

Gallwch. Byddai’n rhaid cynnwys eich plant yn y broses gymeradwyo hefyd, gan eu bod nhw’n rhan bwysig o’ch teulu.

 

 

Os ydw i’n rhentu neu’n berchen ar fflat neu dŷ bychan?

 

Gallwch, cyn belled bod lle gennych a'ch bod yn gallu cynnig amgylchedd diogel a sefydlog.


 

Os ydw i’n anabl a/neu â phroblemau iechyd?

 

Gallwch. Bydd yn rhaid i bawb sy’n gwneud cais i faethu gael prawf meddygol fel rhan o’r broses asesu i sicrhau y gallant ofalu am blentyn. Os ydych yn anabl neu â chyflwr meddygol, bydd ein hymgynghorydd meddygol yn ystyried y ffactorau ac yn gwneud argymhellion ar eich addasrwydd.



Os oes gen i gollfarn droseddol?

 

Gallwch. Nid yw collfarnau troseddol o reidrwydd yn eich gwahardd rhag maethu. Mae'n dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd, pa mor bell yn ôl y cyflawnwyd y drosedd a sut ydych wedi byw eich bywyd ers hynny. Ni chaiff pobl â chollfarnau am droseddau treisgar neu rywiol yn erbyn plant eu hystyried. 



Os ydw i’n gweithio llawn amser?

 

Gallwch. Mae llawer o rieni yn gweithio llawn amser, yn dilyn gyrfa ac yn gofalu am blant. Efallai yr hoffech ystyried maethu’n rhan-amser, cyn belled ag y gallwch ymrwymo i wneud hynny’n rheolaidd.

 


Os nad ydw i’n byw yng Nghaerdydd?

 

Gallwch, os ydych yn byw yn agos iawn at ffin Awdurdod Lleol Caerdydd, e.e. o fewn tua 20 milltir.


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu ar ran Caerdydd cysylltwch â'n tîm maethu.

 

 

029 20873797

 
© 2022 Cyngor Caerdydd