Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Allwn i faethu ar ran Caerdydd?

Yr Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am y plant sy’n derbyn gofal. Mae gan y Cyngor ei Dîm Maethu ei hun ond fel cymaint o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, does dim digon o ofalwyr maeth i ddiwallu anghenion pob plentyn sydd angen cartref maeth.


Rydym yn ceisio lleoli plant gydag unigolion sydd wedi’u cofrestru gyda ni ond os na allwn ddod o hyd i ofalwr priodol i blentyn ar y Gofrestr Maethu bydd yn rhaid i ni chwilio am leoliadau ag asiantaethau maethu annibynnol.


Drwy gofrestru gyda ni fydd gennych fwy o siawns o faethu plentyn o Gaerdydd, a phlentyn sy’n eich siwtio chi â’ch teulu. Rydym yn gwneud pob ymdrech i gadw plant yn agos at eu teuluoedd a’u cymunedau lle y bo’n bosibl.


Beth amdanoch chi?


Mae’r holl blant sy’n derbyn gofal yn unigryw, ac mae angen gofalwyr unigryw i ofalu amdanynt. Does dim gwahaniaeth os ydych yn ddyn neu’n fenyw, yn hoyw neu beidio, yn briod neu’n sengl, neu os oes gennych lond tŷ o blant neu ddim plant o gwbl. Yr hyn sy'n bwysig yw eich ymrwymiad i roi cartref sefydlog i blentyn neu berson ifanc fel y gall dyfu a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.


Lles y plentyn yw ein prif flaenoriaeth felly bydd angen i ni gael gwybod cymaint â phosibl am eich cefndir a'ch ffordd o fyw. I fod yn ofalwr maeth yng Nghaerdydd rhaid i chi:


  • fod yn awyddus i roi cartref i blentyn neu berson ifanc
  • meddu ar y gallu i uniaethu â phlant a deall eu hanghenion
  • gallu gweithio fel aelod o dîm gyda theuluoedd y plant a'u gweithwyr proffesiynol
  • bod yn rhesymol iach a heini
  • bod â digon o amser, egni a synnwyr digrifwch
  • bod yn amyneddgar a chynnig sefydlogrwydd a dealltwriaeth
  • bod dros 21 oed
  • bod ag ystafell wely sbâr (neu sawl un)
  • bod yn byw yng Nghaerdydd (neu o fewn 20 milltir o'r ffin)

 

Cysylltu â ni 


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu ar ran Caerdydd cysylltwch â'n tîm maethu.



 

© 2022 Cyngor Caerdydd