Cartref i blant a phobl ifanc rhwng 6 a 17 oed sydd ag anableddau ac anghenion cymhleth yw Tŷ Storrie sy'n cael eu rhedeg gan Gyngor Caerdydd.
Mae'n amgylchedd cyfforddus a chroesawgar lle mae'r plant yn teimlo'n ddiogel ac yn derbyn gofal.
Mae Tŷ Storrie yng ngorllewin Caerdydd.
Sut mae’r Gwasanaeth yn cael ei ddarparu
Bydd anghenion yr holl blant a phobl ifanc yn cael eu hasesu gan weithwyr cymdeithasol yn nhîm Iechyd ac Anableddau Plant y Cyngor.
Mae'r gwasanaeth yn cynnig cymorth i'r teuluoedd drwy ddarparu pecyn unigol o gymorth a gofal i blant a phobl ifanc ar sail argyfwng, seibiannau byr i ffwrdd o'u cartref teuluol a llety tymor hwy, sy'n eu galluogi i feithrin sgiliau a chyfeillgarwch a chael profiadau newydd.
Safon y Gofal a Chymorth
Mae tîm staff Tŷ Storrie yn cydnabod y gall pobl ifanc sy'n dod i mewn i'r cartref deimlo'n agored iawn i niwed, yn bryderus neu'n ofidus.
Pan fydd person ifanc yn cyrraedd y Cartref mae'n bwysig iddo deimlo'n ddiogel.
Mae staff Tŷ Storrie yn cydweithio'n agos â rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill, gan weithio fel tîm o amgylch y plentyn, i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu.
Mae'r holl staff yn ymgymryd ag ystod eang o hyfforddiant a chymwysterau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Tŷ Storrie yn gwerthfawrogi hunan-barch pobl ifanc a bydd yn mynd ati i ddathlu achlysuron crefyddol, diwylliannol ac arbennig.
Cefnogir pobl ifanc i feithrin cyfeillgarwch â phobl ifanc eraill yn y cartref.
Cymryd rhan mewn gweithgareddau, hobïau neu ddiddordebau unigol
Anogir pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac fe'u cefnogir i ddewis yr hyn yr hoffent gymryd rhan ynddo.
Enghreifftiau o weithgareddau y mae pobl ifanc wedi ymgymryd â hwy o'r blaen neu ar hyn o bryd yw teithiau i'r traeth, prydau bwyd, trampolinio, sinema, celf a chrefft, gemau pêl-droed / rygbi, gemau cyfrifiadurol, ymweld â'r parc lleol a cherdded.
Datblygiad
Tra'n aros yn Nhŷ Storrie anogir pobl ifanc i ddatblygu eu potensial drwy:
- Ddysgu sgiliau newydd, er enghraifft paratoi prydau bwyd gyda'r staff. Mae'r gegin hefyd wedi'i chynllunio i fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
- Bwyta'n iach; rhoi cynnig ar fwydydd newydd.
- Cael eu cefnogi i ddysgu gwisgo a golchi eu hunain
- Gwella sgiliau cyfathrebu, er enghraifft defnyddio cymhorthion cyfathrebu, Makaton, gwrthrychau cyfeirio a PECS.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol, er enghraifft ymgysylltu a meithrin cyfeillgarwch ag eraill.
Anghenion Iaith a Chyfathrebu y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth
Yn Nhŷ Storrie rydym yn mynd ati i hyrwyddo a chefnogi dull ac anghenion cyfathrebu pob unigolyn.
Mae'r tîm staff yn cydnabod bod iaith yn bwysig i ddatblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol pobl ifanc.
Mae wedi'i gwreiddio yn hunaniaeth person ifanc ac mae'n cyfrannu at ddatblygu ei werthoedd personol a golwg gadarnhaol ar ei le mewn cymdeithas.
Mae Tŷ Storrie hefyd yn gallu cael mynediad at wasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd sy'n cefnogi teuluoedd pobl ifanc i deimlo eu bod wedi'u cynnwys.