Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cardiff and Vale Advocacy Gateway

Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro yw’r pwynt cyswllt unigol ar gyfer oedolion sy’n chwilio am gymorth i’w helpu i gymryd rhan wrth gynllunio a darparu’r gofal a’r cymorth sydd ar eu cyfer. Gallwch gael cymorth i edrych ar y dewisiadau sydd ar gael ichi ar wefan Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro. 

Gallwch gael helpu i edrych ar yr opsiynau​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd sydd ar gael i chi ar wefan Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro.​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd


‘Advocacy supports and enables people who have difficulty representing their interests, to exercise their rights, express their views, explore and make informed choices.’

Mae gwasanaeth Eiriolaeth yn annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol, a’i nod yw eich helpu chi i gael y profiad gorau posibl o weithio gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Mae Eiriolaeth Annibynnol Broffesiynol ar gael i unrhyw un sydd angen cymorth i:

Ddeall neu ddefnyddio gwybodaeth, cymorth neu gyngor o ran Gwasanaethau Gofal a Chymorth;
Cymryd rhan yn ei asesiad gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a chynllunio a derbyn gwasanaethau gofal a chymorth. Mae hyn yn golygu pe byddai angen rhywun i’ch helpu i ddweud eich dweud o ran:
Y ffordd y nodir eich anghenion gofal a chymorth, sut y rheolir eich gofal a’ch cymorth a sut y gallwch gyflawni eich canlyniadau personol.

Pan nad oes gan berson rywun a all fod yn eiriolwr drosto, gall Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro fod o gymorth.

Llinell ffôn am ddim yw Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro sydd ar gael o 9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd y Porth yn cynnig: 

  • Cyngor ar y gwahanol fathau o eiriolaeth sydd ar gael yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg;
  • Rhoi gwybodaeth ar y gwahanol sefydliadau eiriolaeth yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg;
  • Cynorthwyo, drwy gysylltu â sefydliad Eiriolaeth perthnasol lleol drwy sgyrsiau tairochrog neu drwy atgyfeirio ymlaen;
  • A, Chyfeirio at sefydliadau cymorth perthnasol eraill. 

A yw hyn yn addas ichi? 

Mae’r Porth yno ar gyfer trigolion Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n hŷn na 18 oed. Gall helpu’r rheiny sy’n derbyn gofal, y rheiny y gall fod angen cymorth arnyn nhw, neu weithwyr proffesiynol gofal/cymorth sy’n pryderu am gofal cymdeithasol a chymorth y mae rhywun yn eu cael. 

Fel y gall eich llais gael ei glywed, ac er mwyn i chi ddeall gwasanaethau cymdeithasol yn well, ffoniwch 0808 801 0577, heb dâl, rhwng 9am a 5pn o ddydd Llun i ddydd Gwener.

© 2022 Cyngor Caerdydd