Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyngor iechyd rhywiol

Mae iechyd rhywiol yn rhan bwysig o’ch iechyd a lles cyffredinol. Os oes plant gennych, mae trafod rhyw a materion yn ymwneud ag atal cenhedlu a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn bwysig.


Mae gwahanol wasanaethau ar gael sy'n cynnig cyngor i'ch helpu i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch eich iechyd rhywiol ac atal cenhedlu.

Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol

 Caiff heintiau a drosglwyddir yn rhywiol eu trosglwyddo o un person i’r llall drwy ryw heb ddiogelwch neu gyswllt â’r organau cenhedlu.

 Mae gwasanaethau iechyd rhywiol i’w profi a’u trin yn gyfrinachol ar gael am ddim i bawb, waeth beth fo’u rhyw, oedran, tarddiad ethnig a chyfeiriadedd rhywiol.


Cynnal profion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol


Os oes angen prawf ar frys arnoch, gallwch drefnu apwyntiad yn un o’r rhywiol clinigau iechyd rhywiol sydd ar gael yng Nghaerdydd a’r ardaloedd cyfagos.


Gallwch gael profion ar gyfer clamydia a gonorea yn unrhyw un ohonynt, ond dim ond Ysbyty Brenhinol Caerdydd sy’n cynnig y gyfres lawn o brofion ar heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys profion gwaed.

Atal Cenhedlu Brys


Y gellir cymryd moddion atal cenhedlu hyd at 72 awr yn dilyn rhyw heb ddiogelwch ond po hired y byddwch yn oedi, y llai effeithiol ydyw. Mae ar gael am ddim gan:

 

  • Eich meddyg teulu
  • Clinigau iechyd rhywiol 
  • Y rhan fwyaf o fferyllwyr

 

Chwilio am wybodaeth a chymorth iechyd rhywiol​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd ng Nghaerdydd.


© 2022 Cyngor Caerdydd