Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Pa gymorth y byddaf yn ei gael

Pan fyddwch chi, neu rywun sy’n agos atoch, yn gofyn am gyngor a chymorth, byddwn wrth law i’ch helpu ac i gynnig gwybodaeth a chyngor ar yr amryw opsiynau sydd ar gael.


 

Bydd eich cymorth yn dibynnu ar y math o help sydd ei angen arnoch a byddwn yn ystyried:  


 

  • A ydych yn gallu diwallu’r angen hwnnw ar eich pen eich hun; 
  • A ydych yn gallu diwallu’r angen gyda gofal a chymorth pobl eraill sy’n barod i helpu; 
  • A allwch ddiwallu’r angen gyda chymorth gwasanaethau y gallwch eu defnyddio yn y gymuned. 


 

Gall cymorth lefel gyntaf fod ar ffurf gwybodaeth a chyngor a/neu gymorth gan eich cymuned leol.          


 

Gadael yr ysbyty 

I’ch helpu i gael eich hyder a/neu gryfder yn ôl ar ôl arhosiad byr yn yr ysbyty, neu pan fo angen i chi ddechrau bod yn annibynnol am y tro cyntaf, gall yr amryw opsiynau gynnwys:


 

  • Gwybodaeth a chyngor o ran pa gymorth sydd ar gael yn eich cymuned leol 
  • Cymorth i fanteisio ar ofal a chymorth 
  • Gofal yn eich cartref 
  • Offer a chymhorthion i’ch helpu 
  • Addasiadau bach e.e. rheiliau ar y grisiau 


 

Beth os oes angen mwy o gymorth arnaf? 

Os yw eich anghenion chi’n fwy, a bod angen mwy o gymorth arnoch, mae’r cymorth hwn yn debygol o gael ei ddarparu gan nifer o bobl neu asiantaethau gwahanol. 


 

Yn yr achos hwn, mae’n debygol y bydd trefniadau ar gyfer eich gofal yn cael eu hysgrifennu mewn cynllun gofal a chymorth.  Gelwir hwn yn gynllun gofal a thriniaeth ym maes iechyd meddwl. 


 

Mae’r cynllun gofal yn ddogfen i’ch helpu chi i wybod beth mae pawb yn ei wneud, a phryd maen nhw’n gwneud hynny.  Cewch gopi ohono.

​​


© 2022 Cyngor Caerdydd