Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Asesiadau

I ddeall sut y gallwn eich helpu i gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir bydd angen i ni siarad gyda chi am eich sefyllfa.  Gelwir hyn yn asesu.

 
Mae’r broses asesu yn hyblyg, yn dibynnu ar eich anghenion chi, a gall gael ei gyflawni gan ystod o weithwyr proffesiynol yn y maes gofal cymdeithasol yn gweithio ynghyd.

 

Beth sydd angen i chi ei ddweud wrthym ni?                  

Mae’r asesiad fel arfer yn cynnwys cwestiynau ynghylch: 

 
  • Eich amgylchiadau personol a’r problemau yr ydych yn eu cael a arweiniodd at ofyn am help 
  • Yr hyn sy’n bwysig i chi – eich nodau personol 
  • Yr hyn sy’n eich atal rhag cyflawni’r nodau hynny a’r datrysiadau posibl 
  • Risgiau i chi neu bobl eraill os na chyflawnir y canlyniadau hynny 
  • Eich cryfderau a’ch galluoedd personol 

 
Mae’r asesiad yn ddarlun ohonoch chi a’ch anghenion ar adeg benodol.  Gellir ei ailadrodd ar unrhyw bryd. 

 
Mae gennych hawl i gael eiriolwr neu rywun i’ch cefnogi os oes angen help arnoch i ateb y cwestiynau hyn.

 
Ar ôl yr asesiad, byddwn yn gweithio gyda chi i gytuno ar ba fath o gymorth fyddai orau i chi, pryd a pha mor aml yr hoffech y cymorth hwnnw. 
 

Beth os bydd fy amgylchiadau yn newid? 

Gall eich anghenion neu amgylchiadau newid yn y dyfodol.  Dyna pam y byddwn yn adolygu eich cynllun ar ddyddiad y cytunwyd arno gyda chi ac yn gwirio’n rheolaidd ei fod yn diwallu eich anghenion. 
Cynhelir y gwiriadau hyn fel arfer:

 
  • Ar ôl y 4-6 wythnos gyntaf
  • Unwaith y flwyddyn 
  • Pryd bynnag yr ydych yn rhoi gwybod i ni bod eich anghenion wedi newid 

 
Rhowch wybod i ni ar unrhyw adeg os yw eich sefyllfa’n newid fel y gallwn addasu eich cynllun a sicrhau eich bod yn cael yr help cywir. 

 

Defnyddio eich gwybodaeth bersonol        

Byddwn yn gofyn am eich caniatâd i rannu gwybodaeth bersonol yr ydych wedi’i rhoi am eich hun gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn rhan o’ch gofal.

 
Gallwn eich sicrhau: 

 
  • Y bydd eich gwybodaeth yn chael ei rhannu’n gyfrifol ac yn ddiogel         
  • Trwy rannu gwybodaeth yn y ffordd hon ni fydd rhaid i chi ailadrodd eich stori i wahanol bobl ar wahanol adegau
  • Bydd yn eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch mor gyflym â phosibl 

 
Mae gennych yr hawl i ddweud ‘na’ os nad ydych am i ni rannu eich gwybodaeth.  

 

 

Gofyn am asesiad 

Os ydych chi’n meddwl bod angen gwasanaethau gofal arnoch chi neu rywun yr ydych yn ei nabod, cysylltwch â ni i gael asesiad.

 
029 2023 4234
029 2078 8570 – rhif argyfwng 24 awr             

 
Gofyn am asesiad i rywun arall   
      
Gallwch wneud atgyfeiriad i rywun sydd angen help a gofal.  Bydd angen i ni ofyn rhywfaint o gwestiynau i chi am y person hwnnw: 

 
  • Manylion cyffredinol, fel enw, cyfeiriad, dyddiad geni ac oedran.          
  • Rheswm dros gysylltu 
  • Hanes meddygol / iechyd meddwl 
  • Sut i gysylltu â’r person 
  • Risgiau posibl 

 
Nid oes angen i chi wybod popeth am yr unigolyn cyn i chi gysylltu â ni, a rhannwch eich pryderon gyda ni.   

​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd