Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer rhai grwpiau o weithwyr gofal cymdeithasol. Mae wedi ymrwymo i wella'r amodau a'r rhagolygon gyrfa ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.
Gallwch wneud cais am daliad trethadwy o £1498 os ydych yn weithiwr gofal cymdeithasol a bod y canlynol yn berthnasol i chi:
- Roeddech yn gweithio mewn rôl gymwys ar 31 Mawrth 2022.
- Dechreuoch weithio mewn rôl gymwys rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Mehefin 2022.
Gallwch
weld a ydych yn gymwysDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru.
Ystyrir mai enillion yw’r taliad hwn ac felly bydd treth, cyfraniadau yswiriant gwladol ac ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr yn berthnasol, lle bo hynny’n briodol. Bydd hefyd yn cael ei gynnwys mewn cyfrifiadau budd-daliadau.
Dim ond un taliad a gewch (hyd yn oed os oes gennych fwy nag un swydd). Rhaid i chi beidio â hawlio mwy nag unwaith gan y gellir ystyried hyn yn dwyll.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, cysylltwch â ni.