Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun Chwyddo Tâl Salwch Statudol


Bydd y cynllun yn cefnogi gweithwyr gofal sydd ond yn cael Tâl Salwch Statudol (TSS)​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd pan fyddant yn absennol neu nad ydynt yn gymwys i gael TSS. Bydd cyllid ar gael i ganiatáu i gyflogwyr dalu gweithwyr cymwys ar gyflog llawn os na allant weithio oherwydd COVID-19.

Gallwch hefyd fod yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth hunanynysu.​ Gallwch wneud cais am y cynllun hwn os ydych yn gymwys. Fodd bynnag, rhaid i chi beidio â cheisio hawlio o'r ddau gynllun am yr un absenoldeb.

Dogfennau defnyddiol 

Gwybodaeth am y Cynllun Chwyddo Tâl Salwch Statudol a sut i wneud cais ar gyfer pobl sy'n derbyn gofal drwy'r Cynllun Taliad Uniongyrchol.

Gwybodaeth am y Cynllun Chwyddo Tâl Salwch Statudol a sut i wneud cais ar gyfer cyflogwyr sy'n darparu gwasanaeth gofal.

Gwybodaeth am y Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol a sut i wneud hawliad i gyflogwyr staff cynllun tai cymwys.

Datganiad i'w gwblhau gan y gweithiwr fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i'ch cyflogwr wneud hawliad.

Ffurflen i'w llenwi a'i llofnodi gan y cyflogwr fel y gellir prosesu hawliad. Noder nad oes angen hyn ar gyfer y rhai sy'n derbyn gofal drwy'r Cynllun Taliad Uniongyrchol ac maent yn defnyddio gwasanaethau cyflogres CIL Dewis.

Pan fydd Ffurflen 2 wedi'i gwirio, gofynnir i gyflogwyr (Darparwyr Gofal) lofnodi a dychwelyd y ddogfen Telerau ac Amodau cyn gwneud taliad.


Oes cyfyngiad ar y nifer o weithiau y gallwch chi ddefnyddio’r cynllun?

Nid oes cyfyngiad ar sawl gwaith y gall cyflogeion cymwys elwa o'r cynllun hwn. Bydd y cynllun yn cefnogi cyflogeion am hyd yr absenoldeb cymwys oherwydd COVID-19 (10 neu 14 diwrnod, neu lai os ceir prawf negyddol, ac yn unol â'r cyngor iechyd cyfredol).

A all staff nad ydynt yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol ddefnyddio'r cynllun?

Gallant, mae unigolyn yn gymwys hyd yn oed os nad yw fel arfer yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol.

Sut mae cyflogwyr yn cyfrifo taliadau ar gyfer staff sy'n gweithio oriau afreolaidd?

Os yw’r oriau'n afreolaidd, cyfrifir cyflog cyfartalog ar sail yr 8 wythnos diwethaf. 

Enghraifft o ddefnyddio'r cynllun taliad chwyddo’r Tâl Salwch Statudol

Pan fydd gofyn i’r Cynorthwy-ydd Personol hunan-ynysu, mae’r taliad ar gyfer y cyfnod a bennir yn unig.

Er enghraifft, mae Cynorthwy-ydd Personol i ffwrdd am 4 diwrnod gyda symptomau ac yn aros am ganlyniadau prawf:
  • ​Ar ôl cael canlyniad prawf negyddol, mae’r Cynorthwy-ydd Personol yn teimlo'n dda ac yn dychwelyd i'r gwaith. Mae'r hawliad am 4 diwrnod.
  • Ar ôl cael canlyniad prawf negyddol, mae'r Cynorthwy-ydd Personol yn parhau i deimlo'n sâl ac yn aros i ffwrdd o'r gwaith. Mae'r hawliad am 4 diwrnod. Nid oes hawliad ynglŷn ag absenoldeb pellach, gan nad yw'r absenoldeb yn gysylltiedig â COVID-19. 
  • Ar ôl cael canlyniad prawf cadarnhaol, mae'r Cynorthwy-ydd Personol yn aros i ffwrdd am 10 diwrnod arall neu’r amser sy'n unol â'r cyngor iechyd presennol. Mae'r hawliad am 14 diwrnod. Gall hawliadau fod yn ddilyniannol yn yr achos hwn h.y. hawlio am amheuaeth o COVID-19, yna am hunanynysu o ganlyniad i COVID-19 go iawn. 
  • Ar ôl cael canlyniad prawf cadarnhaol, mae'r Cynorthwy-ydd Personol yn aros i ffwrdd am 30 diwrnod arall oherwydd effaith y feirws. Mae'r hawliad am 14 diwrnod. Dyma'r hawliad am amheuaeth o COVID-19 ac yna 10 diwrnod ar gyfer hunanynysu o ganlyniad i COVID-19 gwirioneddol, neu gyfnod sy'n unol â'r cyngor iechyd presennol. 
  • Ar ôl cael canlyniad prawf cadarnhaol, mae'r cyflogai yn penderfynu cymhwyso'r cynllun Cymorth Hunanynysu (gweler isod). Mae'r cyflogai yn hysbysu'r cyflogwr sy'n sicrhau bod taliad chwyddo Tâl Salwch Statudol yn dod i ben o ddiwrnod canlyniad cadarnhaol y prawf.

Nid yw’r cyflogai’n gymwys ar gyfer y cynllun hwn os:

  • ​​yw'r absenoldeb yn ymwneud â chyfrifoldebau gofal plant neu ofalwyr, hyd yn oed os yw ysgolion neu wasanaethau dydd wedi cau oherwydd COVID-19
  • oes angen mynd i gwarantîn ar ôl teithio dramor
  • na all y cyflogai weithio oherwydd ei fod wedi ei asesu fel person risg uchel gan offeryn asesu risg COVID-19 i’r gweithlu Cymru gyfan.
  • yw wedi cael ei gynghori gan feddyg teulu neu feddyg mewn ysbyty i hunanynysu fel rhagofal cyn neu ar ôl gweithdrefn feddygol

Staff sydd hefyd yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth hunanynysu.

Os yw unigolyn yn gymwys ar gyfer cynllun chwyddo’r Tâl Salwch Statudol, gall hefyd fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Hunanynysu . Gallai hefyd wneud cais am hwn. Fodd bynnag, rhaid iddi/o benderfynu am ba gynllun yr hoffai wneud cais. Ni chaiff hawlio am y ddau gynllun am yr un absenoldeb. Gellir ystyried hyn yn dwyll.

Rhaid i staff ddweud wrth eu cyflogwr os ydynt yn gwneud cais am y cynllun Cymorth Hunanynysu.

Os yw’r unigolyn yn gwneud cais am y cynllun cymorth hunanynysu, bydd yn dal i gael Tâl Salwch Statudol (os yw'n gymwys) ond ni chaiff hefyd gyflog llawn drwy gynllun chwyddo’r Tâl Salwch Statudol.

Cyfrifoldeb yr unigolyn yw gwneud cais am a hawlio dim ond un ai’r Cynllun cymorth hunanynysu neu’r taliad chwyddo Tâl Salwch Statudol ar gyfer pob cyfnod perthnasol o absenoldeb a rhoi gwybod i’r cyflogwr os yw’n newid o un cynllun i’r llall. 

Treth, Yswiriant Gwladol a budd-daliadau

Bydd unigolion yn cael eu trethu ar daliadau o'r ddau gynllun.

Mae gan y cynlluniau reolau gwahanol o ran:
  • ​Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • sut maent yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau a geir

Os yw unigolyn yn gymwys ar gyfer y ddau gynllun, mae angen iddo benderfynu pa gynllun sy'n well ar ei gyfer.

Trefniadau os yw staff yn eich hysbysu eu bod yn gwneud cais am y cynllun cymorth hunanynysu

Unwaith y bydd cyflogai wedi dewis cynllun i hawlio yn ei erbyn, bydd yn aros ar y cynllun hwn ar gyfer yr absenoldeb hwnnw neu hyd nes y bydd ei amgylchiadau'n newid. 

Er enghraifft: Os yw aelod o staff yn profi symptomau COVID-19 dylai gadw draw o'r gwaith nes y caiff ganlyniad ei brawf. Bydd yn cael cyflog llawn a bydd y cyflogwr yn cael ei ad-dalu drwy'r cynllun chwyddo Tâl Salwch Statudol.

Os ydynt wedyn yn profi'n bositif am COVID-19, ystyrir bod hyn yn absenoldeb ar wahân achos bod yr amgylchiadau wedi newid. Os yw'r cyflogwr yn cael budd-daliadau lles, gall ddewis gwneud hawliad ar wahân am y cynllun cymorth hunanynysu. 

Rhaid i gyflogai hysbysu ei gyflogwr ar unwaith a bydd y taliad chwyddo Tâl Salwch Statudol yn cael ei atal. Yna, dim ond gan ei gyflogwr y bydd y cyflogai yn cael taliad chwyddo Tâl Salwch Statudol (os yw'n gymwys i gael Tâl Salwch Statudol).

Pam mae angen ffurflenni datganiad arnom a beth fydd yn digwydd iddyn nhw?

Mae angen ffurflenni datganiad yn bennaf i ddogfennu dewis cynllun y cyflogai (os yw'n gymwys ar gyfer y cynllun hunanynysu £500 ac am y cynllun Tâl Salwch Statudol ychwanegol) ac i gadarnhau bod y cyflogai yn fodlon i wybodaeth bersonol gael ei rhannu at ddibenion gweinyddu'r cynllun hwn. 
 
Bydd y ffurflen hefyd yn dystiolaeth o bwy a dalwyd ac yn cadarnhau bod y cyflogai a'r cyflogwr wedi cadarnhau bod y cyflogai yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Er mwyn cyflymu'r broses ac osgoi argraffu a chostau postio gellir anfon ffurflenni hawlio at gyflogeion a'u dychwelyd yn electronig.  Bydd ffurflenni electronig yn ddilys ar yr amod eu bod yn cael eu cyflwyno drwy gyfrif e-bost a gedwir yn enw'r cyflogai.  

Gellir anfon ffurflenni datganiad at gyflogeion o flaen llaw, cyn unrhyw absenoldeb o’r gwaith, er mwyn rhoi amser i gyflogeion ystyried eu hopsiynau pe bai'n rhaid iddynt aros gartref o'u gwaith, ond dim ond ar ôl i absenoldeb o'r gwaith ddechrau y dylid cyflwyno ffurflenni.

Rhaid i'r cyflogwr uniongyrchol gadw ffurflenni datganiad am o leiaf 24 mis ar ôl dyddiad y taliad.   Gellir cadw'r ffurflenni hyn yn electronig neu ar ffurf copi caled. Efallai y gofynnir i gyflogwyr ddangos y ffurflenni os yw awdurdodau lleol neu archwilwyr yn gofyn iddynt wneud hynny.  Gall peidio â dangos ffurflenni hawlio i gadarnhau hawliadau arwain at adennill y cyllid.

Pa wiriadau y disgwylir i awdurdodau lleol eu gwneud i ddilysu hawliadau?

Bydd disgwyl i awdurdodau lleol wirio hawliadau cyflogwyr i weld a yw'r hawliad yn gymesur ac yn unol â chyfraddau’r Tâl Salwch Statudol. 

Dylid cynnal ymchwiliad i unrhyw anghysondebau gan awdurdodau lleol sydd â disgresiwn i fwrw ymlaen â'r hawliadau neu gyfeirio at Lywodraeth Cymru.

Beth ddylai'r trefniadau talu fod rhwng awdurdodau lleol a darparwyr neu asiantaethau gofal?

Mater i'r awdurdodau lleol yw penderfynu ar hyn.  Dylent geisio defnyddio’r dulliau talu presennol, os yw'n briodol. Yn absenoldeb mecanwaith talu presennol priodol dylai awdurdodau lleol greu trefniant grant sylfaenol gan ddefnyddio cymalau a thelerau ac amodau safonol.   

Sut mae cyflogwyr yn profi bod y taliadau wedi'u gwneud?

Gofynnir i gyflogwyr gyflwyno ffurflen 2 wedi'i chwblhau i'r awdurdod lleol. Gall yr awdurdod lleol ofyn am adroddiad ariannol neu wybodaeth ariannol ategol gan y cyflogwr yn dangos bod y taliadau wedi'u gwneud i'r staff a restrir ar y ffurflen. 

Sut mae cyflogwr yn dosbarthu'r incwm i ariannu'r taliadau hyn yn eu cyfrifon?

Dylid cydnabod taliadau chwyddo’r Tâl Salwch Statudol a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru drwy awdurdodau lleol yng nghyfrifon y cyflogwyr fel incwm trethadwy. Bydd cyflogwyr yn gallu hawlio didyniad cyfatebol yn eu cyfrifon ar gyfer costau cyflogeion, felly nid oes unrhyw effaith net ar elw trethadwy cyffredinol y cyflogwr.  

Beth sy'n digwydd os oes gan gyflogwr leoliadau gofal lluosog mewn gwahanol ardaloedd ALl?

Pan yw cyflogwr yn darparu gwasanaethau ar draws mwy nag un ardal ddaearyddol awdurdod lleol, gall yr awdurdodau lleol perthnasol a'r cyflogwr, drwy gydsyniad y naill a'r llall, gytuno i un awdurdod lleol arwain ar y taliadau ar gyfer pob lleoliad ar gyfer y darparwr gofal hwnnw ei mwyn lleihau cymhlethdod a'r baich gweinyddol ar y darparwyr gofal a’r awdurdodau lleol.

Staff gofal sydd hefyd yn gymwys ar gyfer y cynllun taliad hunanynysu.

Os yw unigolyn yn gymwys ar gyfer cynllun taliad chwyddo’r Tâl Salwch Statudol, gall hefyd fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Taliad Hunanynysu.​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun taliad Hunanynysu gwerth £500 rhaid iddynt dderbyn budd-daliadau a rhaid iddynt:
  • ​hunanynysu oherwydd prawf positif ar gyfer COVID-19
  • hunanynysu oherwydd eu bod wedi’u nodi fel cyswllt gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru


Gallai gweithwyr gofal wneud cais am hyn hefyd. Fodd bynnag, rhaid iddynt benderfynu am ba gynllun yr hoffent i chi wneud cais. Ni allant hawlio am y ddau gynllun am yr un absenoldeb. Gellir ystyried hyn yn dwyll.

Rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr os ydych yn gwneud cais am y cynllun taliad hunanynysu.

Os yw’r unigolyn yn gwneud cais am y cynllun taliad hunanynysu, bydd yn dal i gael Tâl Salwch Statudol (os yw'n gymwys) ond ni all hefyd gael cyflog llawn drwy gynllun taliad chwyddo’r Tâl Salwch Statudol.

Cyfrifoldeb yr unigolyn yw gwneud cais am ddim ond un ai’r taliad hunanynysu neu’r taliad chwyddo Tâl Salwch Statudol a’i hawlio ar gyfer pob cyfnod perthnasol o absenoldeb a rhoi gwybod i chi os yw’n newid o un cynllun i’r llall. 

Treth, Yswiriant Gwladol a budd-daliadau

Bydd unigolion yn cael eu trethu ar daliadau o'r ddau gynllun.

Mae gan y cynlluniau reolau gwahanol o ran:
  • ​Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • sut maent yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau a geir


Os yw unigolyn yn gymwys ar gyfer y ddau gynllun, mae angen iddo benderfynu pa gynllun sy'n well ar ei gyfer.

Trefniadau os yw staff yn eich hysbysu eu bod yn gwneud cais am y cynllun taliad hunanynysu

Ar ôl i’r cyflogai ddewis cynllun i hawlio yn ei erbyn, bydd yn aros ar y cynllun hwn ar gyfer yr absenoldeb hwnnw neu nes y bydd ei amgylchiadau'n newid.

Er enghraifft: Os yw aelod o staff yn profi symptomau COVID-19 dylai gadw draw o'r gwaith nes y caiff ganlyniad ei brawf. Caiff gyflog llawn a bydd y cyflogwr yn cael ei ad-dalu drwy gynllun taliad chwyddo’r Tâl Salwch Statudol. 

Os yw wedyn yn cael canlyniad prawf positif am COVID-19, ystyrir bod hyn yn absenoldeb ar wahân achos bod yr amgylchiadau wedi newid. Os yw'r gweithiwr gofal yn cael budd-daliadau lles, gall ddewis gwneud hawliad ar wahân am y taliad hunanynysu.

Rhaid i weithwyr gofal hysbysu eu cyflogwr ar unwaith bryd hynny a bydd y taliad chwyddo yn cael ei atal. Yna, dim ond gan ei gyflogwr y bydd y gweithiwr gofal yn cael taliad chwyddo Tâl Salwch Statudol (os yw'n gymwys i gael Tâl Salwch Statudol).


© 2022 Cyngor Caerdydd